Mitzi Gaynor

actores a aned yn 1931

Roedd Mitzi Gaynor (ganwyd Francesca Marlene de Czanyi von Gerber; 4 Medi 193117 Hydref 2024) yn actores a chantores Americanaidd. Roedd ei ffilmiau nodedig yn cynnwys South Pacific (1958), y cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau - Motion Picture Comedy neu Sioe Gerdd yng ngwobrau 1959.

Mitzi Gaynor
FfugenwMitzi Gaynor Edit this on Wikidata
GanwydFrancesca Marlene de Czanyi von Gerber Edit this on Wikidata
4 Medi 1931 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 2024 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Hollywood Professional School
  • Ysgol Uwchradd Hollywood Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, dawnsiwr, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodJack Bean Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Mary Pickford Award Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yn Chicago, [1] yn ferch i Henry de Czanyi von Gerber, fcerddor a chyfarwyddwr cerdd o dras Hwngari, a'i wraig Pauline, dawnsiwr.[2][3][4] [5]

Trwy ail briodas ei thad, daeth Mitzi Gaynor yn llyschwaer i'r ymgyrchydd gwrth-ryfel Donald W. Duncan.[6] Symudodd y teulu gyntaf i Elgin, Illinois, [7] yna i Detroit ac yn ddiweddarach, pan oedd hi'n 11 oed, i Hollywood . Dechreuodd ei gyrfa fel dawnwraig bale. Yn 13 oed, roedd hi’n canu ac yn dawnsio gyda chwmni Civic Light Opera .

Arwyddodd Gaynor gontract saith mlynedd gyda Twentieth Century-Fox yn 17 oed. Roedd hi'n canu, yn actio ac yn dawnsio mewn nifer o sioeau cerdd ffilm. [3] Gwnaeth Gaynor ei ffilm gyntaf yn y sioe gerdd My Blue Heaven (1950);[8] Roedd ganddi rôl gefnogol.

Serenodd Gaynor fel Lotta Crabtree yn y ffilm gerddorol Golden Girl (1951).[9] Roedd Gaynor yn un o sawl seren yn y flodeugerdd gomedi We're Not Married! (1952), ac yna cafodd y bil uchaf yn y sioe gerdd Bloodhounds of Broadway (1952). [10]

Ffilm fwyaf poblogaidd Gaynor yn ei chyfnod yn Fox oedd There's No Business Like Show Business (1954) gan Irving Berlin . Cafodd ei bilio ar ôl Ethel Merman, Dan Dailey, Marilyn Monroe, Donald O'Connor, a Johnnie Ray . 

Priododd Gaynor â Jack Bean yn San Francisco ym 1954. Roedd eu cartref ar North Arden Drive yn Beverly Hills, Califfornia.[11] Does dim plant gyda nhw. Ar ôl eu priodas, rhoddodd Bean y gorau i MCA, cychwynnodd ei gwmni cyhoeddusrwydd o'r enw Bean & Rose, a rheoli gyrfa Gaynor.[3] [12][13]

Ym 1956, ymddangosodd Gaynor yn ail-wneud Paramount o Anything Goes, gyda Bing Crosby, Donald O'Connor, a Zizi Jeanmaire, wedi'i seilio'n fras ar y sioe gerdd gan Cole Porter. Ym 1957, ymddangosodd Gaynor yn Les Girls gan MGM, a gyfarwyddwyd gan George Cukor, gyda Gene Kelly.

Daeth Gaynor yn enwog am ei rôl serennu, fel Nellie Forbush, yn fersiwn ffilm South Pacific. [8]

Bu farw Jack Bean, gŵr Gaynor o 52 mlynedd, yn 2006 o niwmonia yng nghartref y cwpl, yn 84 oed. [14]

Bu farw Gaynor o achosion naturiol yn Los Angeles ar 17 Hydref 2024 yn 93 oed.[15][16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. James Robert Parish; Michael R. Pitts (2003). Hollywood Songsters: Garland to O'Connor (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 345. ISBN 978-0-415-94333-8.
  2. "Gaynor's father's Hungarian descent". CBS news.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Awst 2022.
  3. 3.0 3.1 3.2 McManus, Margaret (12 Hydref 1969), "Presenting Francesca Mitzi", The Milwaukee Journal
  4. Motion Picture, Macfadden-Bartell, 1952, p. 86
  5. "unknown?", Daily Boston Globe: 7, 22 Ionawr 1955
  6. McFadden, Robert D. (6 Mai 2016). "Donald W. Duncan, 79, Ex-Green Beret and Early Critic of Vietnam War, Is Dead". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Hydref 2024.
  7. Sotonoff, Jamie; Gire, Dann (19 Mawrth 2013). "Mitzi Gaynor: Superstar, one-time Elgin girl". Daily Herald. Arlington Heights, Illinois.
  8. 8.0 8.1 "Mitzi Gaynor, star of South Pacific, dies aged 93". The Independent (yn Saesneg). 17 Hydref 2024. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.
  9. "The Top Box Office Hits of 1951", Variety, 2 Ionawr, 1952.
  10. 'Top Box-Office Hits of 1952', Variety, January 7, 1953
  11. Christy, George (9 Ionawr 2015). "Memories" (PDF). The Beverly Hills Courier. t. 6.
  12. Parish, James Robert; Pitts, Michael R. (2003). Hollywood Songsters: Singers Who Act and Actors Who Sing: Biographical Dictionary, Volume 2. Taylor & Francis. t. 346. ISBN 978-0-415-94333-8.
  13. Johnson, Erskine (10 Awst 1957), "unknown?" (yn en), Warsaw Times-Union (Warsaw, Indiana): 8
  14. "Producer Bean dies". Variety. 11 December 2006. Cyrchwyd 17 October 2024.
  15. Huamani, Kaitlyn; Thomas, Bob (17 October 2024). "Mitzi Gaynor, star of 'South Pacific,' dies at 93". Associated Press. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.
  16. Barnes, Mike; Byrge, Duane (17 Hydref 2024). "Mitzi Gaynor, Showbiz Dynamo and Star of 'South Pacific,' Dies at 93" (yn Saesneg). The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.