Mo Omar

Digrifwr Somaliaidd o Gymro

Digrifwr Somaliaidd o Gymro yw Mo Omar.

Mo Omar
GanwydSomalia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Mohamed Omar yn Somalia ar 1 Mawrth a symudodd i Gaerdydd fel ffoadur pan oedd yn 8 mlwydd oed. Yn 16 mlwydd oed, aeth ar brofiad gwaith gyda Plaid Cymru.

Gyrfa comedi golygu

Cychwynnodd wneud comedi pan oedd yn 19 oed. Er ei fod yn gwybod am noson gomedi yng nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd, ni fentrodd wneud gig yno. Er ei fod wedi symud i Lundain, roedd ei gig comedi cyntaf ar 18 Mai 2016 yn Abertawe. Ers hynny mae wedi perfformio yn The Glee Club a Bloc Café.[1]

Yn 2017 enillodd gystadleuaeth Digrifwr Newydd y Flwyddyn Leicester Square ac aeth i rownd gynderfynol cystadlaethau 'So You Think You’re Funny' ac 'Amused Moose' yn 2017. Yn 2019 cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Gomedi BBC Introducing Radio 4. Wedi hynny gwnaeth ei berfformiad cyntaf ar deledu ar raglen Harry Hill's Clubnite (Channel 4, 2019)

Mae wedi creu fideos byr ar gyfer llwyfan BBC Cymru 'Sesh' ac ymddangosodd mewn pennod o The Joy of Missing Out ar All4.[2]

Soniodd am ei hunaniaeth Cymreig mewn rhaglen ar BBC Radio Wales Mo Omar: Becoming Welsh (Hydref 2020).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Mo Omar: Becoming Welsh. British Comedy Guide (5 Hydref 2020). Adalwyd ar 17 Hydref 2020.
  2.  Off The Kerb - Mo Omar. Adalwyd ar 17 Hydref 2020.
  3.  Mo Omar: Becoming Welsh. BBC Radio Wales (5 Hydref 2020). Adalwyd ar 17 Hydref 2020.

Dolenni allanol golygu