Modrwy i'w rhoi ar fys i ddangos bod y sawl sy'n ei gwisgo yn briod yw modrwy briodas.[1] Mae fel arfer wedi'i gweithio o fetel, ac yn draddodiadol o aur neu fetal gwerthfawr arall.[2]

Priodfab yn gosod modrwy ar fys y briodferch mewn seremoni priodas.

Daw'r enghreifftiau cynharaf o fodrwyau priodas o'r Hen Aifft. Gellir olrhain arferion gorllewinol yn ymwneud â modrwyau priodas i Rufain hynafol a Groeg yr Henfyd, ac fe'u trosglwyddwyd yn ddaearyddol a thros amser trwy Gristnogaeth yn Ewrop, gan addasu'r arferion hynafol.

Gan ddibynnu ar ddiwylliant, mae'r fodrwy briodas fel arfer yn cael ei gosod wrth fôn y bys modrwy ar y llaw chwith neu'r dde. Os yw'r gwisgwr yn llaw chwith, bydd yn aml yn mynd ar y llaw dde. Mae nifer o wŷr a gwragedd yn gwisgo eu modrwyau priodas ddydd a nos, sy'n achosi ôl ar y croen sydd i'w weld pan fydd y fodrwy yn cael ei thynnu.

Mewn sawl traddodiad, y gwas priodas neu'r forwyn briodas sy'n cael y ddyletswydd o ofalu am y modrwyau priodas a'i cyflwyno yn ystod y seremoni. Mewn rhai gwasanaethau, bydd cludwr modrwyau (sydd fel arfer yn aelod o deulu'r priodfab neu'r briodferch) yn dod a'r modrwyau i'r seremoni, weithiau ar glustog arbennig.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wedding Ring". Harper Collins Dictionary (dictionary.com). Harper Collins & Son. 2016. Cyrchwyd 8 Sep 2016.
  2. "Guide to Wedding Ring Styles, Designs & Prices". The Wedding Rings. Polished Diamonds Ltd.[dolen marw]