Moliannwn

cân werin Gymraeg

Cân werin Gymraeg yw Moliannwn. Cân o foliant ydyw i groesawu'r gwanwyn. Ysgrifennodd Benjamin Thomas (1838-1920)[1][2] y geiriau Cymraeg ac mae hi'n cael ei chanu i'r alaw gwerin Americanaidd The Old Cabin Home gan T. Paine (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1858).[3]

Defnydd golygu

Mae'r gân yn boblogaidd mewn tafarndai yng Nghymru, ac wedi'i pherfformio mewn gwyliau yng Nghymru a ledled y byd.

Mae sawl fersiwn wedi'i recordio gan artistiaid gan gynnwys Ryan Davies, DJ SG, Cerddorfa Ukulele, Ghazalaw, Gwerinos, Yr Hennessys, Dafydd Iwan, Tammy Jones, Cerys Matthews, Mynediad Am Ddim a'r Anfarwol Bob Tai'r Felin.[4]

Geiriau golygu

Nawr lanciau rhoddwn glod,
Y mae'r gwanwyn wedi dod,
Y gaeaf a'r oerni a aeth heibio.
Daw'r coed i wisgo'u dail,
A mwyniant mwyn yr haul,
A'r ŵyn ar y dolydd i brancio.

Cytgan:
Moliannwn oll yn llon,
Mae amser gwell i ddyfod, Haleliewia,
Ac ar ôl y tywedd drwg,
Fe wnawn arian fel y mwg,
Mae arwyddion dymunol o'n blaenau,
Ffw la la, ffw la la, Ffa, la la, la la la la.
Ffw la la, ffw la la, Ffa, la la, la la la la.

Daw'r Robin Goch yn llon,
I diwnio ar y fron,
A cheiliog y rhedyn i ganu,
A chawn glywed Whip-ar-Wîl,
A llynffantod wrth y fil,
O'r goedwig yn mwmian chwibanu.
(Cytgan)

Fe awn i lawr i'r dre,
Gwir ddedwydd fydd ein lle,
A llawnder o ganu ac o ddawnsio.
A chwmpeini naw neu ddeg
O enethod glân a theg,
Lle mae mwyniant y byd yn disgleirio.
(Cytgan)

[5]

Themau golygu

 
Whip-ar-Wîl

Mae rhai wedi tynnu sylw at gyfeiriadau yn y gân sydd ddim yn gyfarwydd iawn yng Nghymru fel tystiolaeth o'i darddiad yn yr Unol Daleithiau: yr aderyn Whip-ar-Wîl sydd yn gynhenid i Ogledd America a "llynffantod wrth y fil / O'r goedwig yn mwmian chwibanu". [6]

Cyfeiriadau golygu