Band roc-gwerin oedd Gwerinos, a sefydlwyd yn 1987. Roeddent yn boblogaidd rhwng 1990 a 2003. Roedd yn esblygiad o fand twmpath o'r enw Alff Alffa a'r Soya Beans a oedd, mewn gwirionedd yn dân shafins y grŵp gwerin Cilmeri.

Dechreuodd y band ganu mewn twmpathau yng Nghymru, gyda'r rhan fwyaf o'r band yn dod o ardal Dolgellau gyda rhai yn gyfrifol am sefydlu Gŵyl y Sesiwn Fawr, ond bu sawl newid yn yr aelodaeth dros y blynyddoedd.

Aelodaeth golygu

Aelodau'r band oedd: Dan Morris (ffidil), Elfed ap Gomer (bas), Huw Dylan Owen (mandolin), Bernard Barnes (pib), Alan Moller (pibau Uillean), Chris Knowles (telyn a bouzouki), Ywain Myfyr (gitâr, bodhran ac organ geg), Celt Roberts (galwr ac acordion) ac Iwan Parry (ffidil). Deuai'r aelodau gwreiddiol i gyd o ardal Dolgellau ac roedd hyn yn adlewyrchu'r bwrlwm a'r diddordeb newydd a ddaeth yn sgil sefydlu'r Ŵyl Werin yn y dref honno yn ôl yn 1978.

Yn raddol newidiodd swyddogaeth Gwerinos o fod yn fand twmpath i fod yn grŵp gwerin gyda chaneuon a setiau offerynnol. Erbyn 1992, yn eu hymddangosiad yn y Sesiwn Fawr gyntaf yn Nolgellau, roedd aelodaeth y grŵp yn edrych yn bur wahanol: roedd pump aelod wedi ymadael a dau aelod newydd wedi ymuno, gan adael chwech, gyda Tony Hodgson (pib) ac Emlyn Gomer (drymiau a gitâr) yn ymuno â Dan Morris, Elfed ap Gomer, Ywain Myfyr a Huw Dylan Owen, oedd erbyn hynny ar y mandolin, gitâr a llais.

Arddull golygu

Mae arddull y band yn amrywio o ganeuon gwreiddiol wedi eu cyfansoddi gan aelodau'r band a ffynonellau traddodiadol cerddoriaeth dawns Cymreig. Canu cynganeddol clos, sydd ganddynt, fel arfer, a cheir perfformiadau rhythmig cryf a ddefnyddir yn gefndir i'r offerynnau blaen. Bu i Gwmni Fonomusic o Sbaen drwyddedu un o'u traciau oddi ar yr albwm Seilam sef "Fflat Huw Puw" i'w gynnwys ar CD arbennig o'r enw Naciones Celtas.

Erbyn y 2010au, yr aelodau oedd: Elfed ap Gomer ar y gitar fas, acordion, allweddellau a llais; Gareth Jones ar y drymiau a llais cefndir; Idris Morris Jones ar y ffidil a llais cefndir; Tudur Huws Jones ar y banjo, mandola, mandolin, bouzouki, chwistl a llais; Ywain Myfyr ar y gitar, bodhran, organ geg a llais; Emlyn Roberts ar y gitar, bouzouki a llais, a Roger Vaughan ar y gitar fas a llais cefndir.

Yn fuan wedi hyn, aeth y grŵp ymlaen i recordio'u crynoddisg cyntaf Di-didl-lan (Sain, 1994). Yn fuan wedi hyn gadawodd Huw Dylan a Dan Morris y band, gyda Huw Dylan yn mynd ati i ffurfio'r grŵp gwerin-pync Defaid. Cymerwyd eu lle gan Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki, pib a llais), ac yn ddiweddarach ymunodd Idris Morris Jones (ffidil) a Gareth Jones (Jôs) ar y drymiau, wrth i Emlyn Gomer symud at y gitâr, bouzouki a lleisio. Bu cyfnod o ddwy flynedd gyda'r lein-yp yn cynnwys Ywain Myfyr, Emlyn Gomer, Idris Morris Jones, Elfed ap Gomer, Huw Dylan a Tudur Huws Jones. Symudodd Elfed ap Gomer i chwarae'r allweddellau ac ymunodd Roger Vaughan ar y gitâr fas. Dyma'r aelodau a recordiodd yr ail albwm, Seilam, a ryddhawyd yn 1997. Yn 1999 rhyddhawyd eu trydydd albwm, Lleuad Llawn (Sain, 1999). Aelodau'r grŵp erbyn hyn oedd Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki, pib a llais), Elfed ap Gomer (allweddellau ac acordion), Emlyn Roberts (gitâr, bouzouki a llais), Marc Jones (bas), Idris Morris Jones (ffidil), Gareth Jones (drymiau), Ywain Myfyr (gitar, bodhran, organ geg a llais). Gadawodd Tudur Huws Jones yn y flwyddyn 2000 ac ymunodd Aled Rees Jones (gitâr).

Ymunodd Huw Roberts (ffidil) â'r band ar gyfer teithiau i'r Wcráin a Ffrisia yn 2001. Gwnaeth y band eu hymddangosiad ‘olaf' yng Ngŵyl Cefni 2002.

Aduniad golygu

Ymhen ychydig dros ddeng mlynedd wedyn, yn 2013, daeth rhai o'r aelodau yn ôl at ei gilydd a dal ati i berfformio'n achlysurol. Yr aelodaeth erbyn 2016 oedd Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki a phib), Aled Rees Jones (gitâr), Gareth Jones (cajon a phib), Idris Morris Jones (ffidil a llais), Ywain Myfyr (gitâr, bodhran, organ geg a llais) a Nicolas Davalan (bas dwbl).

Disgyddiaeth golygu

  • Di-Didl-Lan (Recordiau Sain, SAIN SCD 2075, 1993)
  • Seilam (SAIN SCD 2160, 1997)
  • Lleuad Llawn (SAIN SCD 2221, 1999)

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod gan Arfon Gwilym ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.