Tammy Jones
Cantores o Gymraes yw Tammy Jones (ganwyd Helen Wyn Jones, 12 Mawrth 1944), sy'n hannu o Dal-y-bont ger Bangor.[1]. Symudodd i fyw yn Seland Newydd yn 1995 a daeth nôl i fyw yng Nghymru yn 2010 gan setlo yng Ngharneddi ger Bethesda.[2]
Tammy Jones | |
---|---|
Ganwyd | Helen Wyn Jones 12 Mawrth 1944 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Gwefan | http://www.tammyjones.co.nz/ |
Bywyd cynnar
golyguCychwynnodd Jones ganu yn ifanc iawn a chanodd am y tro cyntaf yn bedair blwydd oed ym mhriodas ei chwaer. Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau ar draws Cymru yn canu penillion a chanu gwerin. Roedd hefyd yn aelod o gôr plant Wili Parry ym Methesda.[3]
Roedd gweddill y teulu yn gerddorol a roedd ei brawd Now (Owen Glyn Jones) yn canu gyda Hogia Llandegai.
Gyrfa gerddorol
golyguDaeth yn berfformiwr rheolaidd ar y radio a'r teledu yng Nghymru, yn canu yn Saesneg ac yn Gymraeg.[4] Ymddangosodd ar sioeau teledu BBC Cymru megis Hob Y Deri Dando a Clywch, Clywch, yn ogystal â sioe deledu ei hun o'r enw Tammy.
Ryddhawyd ei record Cymraeg cyntaf yn 1965 o dan y teitl 'Helen Wyn a Hebogiaid y Nos'. Dilynwyd hyn gyda record deuawd gyda Aled Hughes 'Caneuon Aled a Helen Wyn'.
Yn 1966, recordiodd ei albwm Caneuon i'r Plant fel Helen Wyn, yna 'Moliannwn/Scarlet Ribbons' fel Tammy Jones. Yn 1967, recordiodd 'Edelweiss/All The Love in the World', a'r LP The World of Tammy Jones ac yn 1968, recordiodd yr albwm 'Gwenno Penygelli/Twll Bach y Clo'.
Yn 1969 rhyddhaodd ei sengl cyntaf ar CBS Records: 'Lai Lai Lai/Pren Helyg' yn Gymraeg, a 'Lai Lai Lai/Willow Tree' yn Saesneg.
Drwy'r 1960au, daeth Jones yn berfformiwr cabaret yn perfformio caneuon fel "No Regrets", "My Way" a "The Day That the Rains Came Down". Gyda llais wedi ei hyfforddi ar gyfer opera yn Ysgol Gerddoriaeth y Guildhall, Llundain, dyma oedd ei chryfder am flynyddoedd.
Dilynwyd hyn gan ymddangosiadau gwadd ar deledu Seisnig gyda Benny Hill, Tom Jones, The Bachelors, Dick Emery a Morecambe and Wise, ynghyd ag ymddangosiadau yn y London Palladium a'r Royal Variety Performance o flaen Y Dywysoges Anne. Gwnaeth ymddangosiadau cabaret yn genedlaethol a rhyngwladol, gyda ymweliadau i Wlad Pwyl, Israel, Simbabwe, America, Canada, Affrica, Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a'r Ariannin.
Fe'i 'darganfuwyd' ar sioe dalent poblogaidd ITV, Opportunity Knocks, lle enillodd am chwe wythnos yn olynol yn 1975. Yn ystod ei chyfnod ar y sioe, cafwyd y nifer uchaf o bleidleisiau a gofnodwyd erioed ar y sioe.[angen ffynhonnell] Yn dilyn hyn ryddhaodd ei record mwyaf llwyddiannus, "Let Me Try Again", a gyrhaeddodd [5] #5 ar y Siart Senglau y DU.[6] Yn 1975, Jones oedd yr artist benywaidd o wledydd Prydain a werthodd fwyaf o recordiau yn seiliedig ar ei gwerthiant rhyngwladol.[7]
Yn 1976, Jones rhyddhaodd sengl o'r enw "Love's a Carousel", y gân a berfformiodd ar raglen y BBC A Song for Europe yn y Royal Albert Hall, cystadleuaeth i ddewis cynrychiolydd y DU ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cystadlodd yn erbyn Frank Ifield a Tony Christie, gyda Jones yn gorffen yn y chweched safle allan o ddeuddeg o gystadleuwyr. Yr enillwyr oedd Brotherhood of Man, a aeth ymlaen i ennill yr Eurovision yn y rownd derfynol yn Yr Hâg gyda "Save Your Kisses for Me".[8] Rhyddhaodd Jones albwm o'r un enw yn fuan ar ôl hynny, ond ni wnaeth y sengl na'r albwm gyrraedd siartiau y DU.
Yn dilyn hyn enillodd Jones y cynhyrchiad rhyngwladol cyntaf o Opportunity Knocks a gysylltwyd drwy loeren gyda Awstralia. Rhyddhaodd albymau yn y DU, yn canu gyda chefnogaeth cerddorfa 30 darn ac, yn 1976, fe'i pleidleisiwyd yr ail canwr benywaidd gorau ym Mhrydain.[angen ffynhonnell]
Ymddangosodd Jones mewn sioeau haf, gan chwarae prif rannau mewn pantomeimiau, gyda nifer o artistiaid adnabyddus fel Les Dawson, Marti Caine, Jim Davidson, Hope and Keen, Y Krankies, Craig Douglas a Charlie Drake.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BBC.co.uk Tammy Jones". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-14. Cyrchwyd 2018-11-03.
- ↑ In the Spotlight: Singer Tammy Jones , North Wales Daily Post, 1 Medi 2010. Cyrchwyd ar 5 Tachwedd 2018.
- ↑ Tammy: Tom Jones, Benny Hill a brig y siartiau , BBC Cymru Fyw, 7 Tachwedd 2018.
- ↑ "Tammy the Welsh Singer, star of stage and TV, bookings and shows". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-06. Cyrchwyd 2018-11-03.
- ↑ "Yearsofgold.org.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-18. Cyrchwyd 2018-11-03.
- ↑ Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. t. 289. ISBN 1-904994-10-5.
- ↑ "best selling female artist of the year due to her international record sales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-20. Cyrchwyd 2018-11-03.
- ↑ "A Song For Europe 1976/1977". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-16. Cyrchwyd 2018-11-03.