Molly Parkin
Arlunydd, nofelydd a newyddiadurwr o Gymru yw Molly Parkin (ganed Molly Noyle Thomas, 3 Chwefror 1932), a ddaeth yn enwog ym myd ffasiwn y 1960au.[1]
Molly Parkin | |
---|---|
Ganwyd | 3 Chwefror 1932 Pontycymer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, newyddiadurwr |
Priod | Michael Parkin |
Plant | Sophie Parkin, Sarah Parkin |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Parkin yn 1932, yr ail o ddwy ferch, ym Mhontycymer, Cwm Garw, Sir Forgannwg. Symudodd hi a'i theulu i Lundain, i fyw gyda'i thad-cu a mam-gu, pan ddechreuodd yr ail Ryfel Byd yn 1939.[2] Ar ôl pasio ei arholiad 'eleven plus' aeth Parkin i Ysgol Ramadeg Sirol Willesden (sydd bellach yn Capital City Academy). Yn ystod y rhyfel, yn ddiarwybod i'w rhieni, yn 12 mlwydd oed bu'n gweithio ar rownd bapur yn Dollis Hill, Llundain, gyda'r nos. Dywedodd wrth ei mam ei bod yn astudio celf ar ôl oriau arferol yn yr ysgol. Gwelodd ei thad-cu hi'n dosbarthu papurau, fodd bynnag, a dywedodd hyn wrth ei mam - o ganlyniad fe'i rhwystrwyd rhag parhau â'r gwaith a'i cosbwyd gan orfodi iddi wneud gwaith tŷ. Wedi hyn enillodd ychydig o arian gan Mr Hill, eu lletywr, a gymerodd drueni arni a thalodd iddi lanhau ei ystafell. Roedd hi'n dotio ar Hill, am ei fod yn meddwl ei fod yn ŵr bonheddig, a blynyddoedd yn ddiweddarach gwelodd nodweddion tebyg yn yr actor James Robertson Justice.
Yn ddiweddarach prynodd y teulu siop dybaco a siop bapur newydd, oedd yn cyflogi pedwar bachgen papur. Pan ddaliwyd un o'r bechgyn papur yn dwyn arian roedd rhaid i'w llenwi ei shifft ar hast ac roedd rhaid i Parkin, yn 14 oed ar y pryd, wneud y rownd bapur yn ei le. Ar ei diwrnod cyntaf yn gwneud y gwaith fe darodd car hi oddi ar ei beic a tharodd ei phen ar y palmant. Cafodd ei tharo'n anymwybodol, ac aeth i'r ysbyty, ac roedd i ffwrdd o'r ysgol am tua blwyddyn, yn gwella. Treuliodd Parkin lawer o'r cyfnod hwn ar ei ben ei hun yn ei ystafell uwchben y siop, yn arlunio a phaentio. Datblygodd hwn ei diddordeb yn y celfyddydau.[3]
Gyrfa
golyguYn 1949 enillodd Parkin ysgoloriaeth i astudio celf gain yn Goldsmiths College, Llundain, ac yna ysgoloriaeth i Goleg Celf Brighton. Ar ôl priodi daeth yn athrawes, gan baentio drwy gydol y cyfnod hwn. Ar ôl cyfres o garwriaethau tu allan i'r brioads, gan gynnwys gysylltiad tymor hir gyda James Robertson Justice, gwahanodd Parkin gwahanu o'i gŵr ar ddechrau y 1960au, a collodd yr awydd, ysbrydoliaeth a brwdfrydedd i barhau gyda'i gwaith celf.
I gefnogi ei dwy ferch trodd Parkin at fyd ffasiwn. Ar ôl gwneud hetiau a bagiau ar gyfer Barbara Hulanicki yn Biba, a gweithio ochr yn ochr â Mary Quant, agorodd Parkin siop bwtîg yn Chelsea, a ymddangosodd mewn erthygl Newsweek am 'Swinging London'. Ar ôl gwerthu'r siop i'w partner busnes Terence Donovan, sefydlodd y cylchgrawn arloesol Nova yn 1964. Yna, daeth yn olygydd ffasiwn Harpers & Queen yn 1967, a'r un swydd gyda'r Sunday Times ym 1969, cyn ei gwobrwyo yn Olygydd Ffasiwn y Flwyddyn yn 1971. Ar ôl dod yn bersonoliaeth teledu yn y 1970au, gwaharddwyd Parkin o raglenni'r BBC am regi.[4]
Yn y 1970au cynnar ysgrifennodd Parkin amlinelliad 750 gair ar gyfer nofel o'r enw Love All. Er nad oedd y cyhoeddwyr Blond & Briggs yn hoff ohono, dywedodd ysgrifenyddes y swyddfa ysgrifennydd ei bod yn hoffi'r syniad, a phenderfynodd y cwmni ei gyhoeddi. Roedd ei ail nofel yn cynnwys fwy o ryw: cyhoeddwyd Up Tight yn 1975, a chafodd mwy o gyhoeddusrwydd, diolch i'r clawr gan y ffotograffydd ffasiwn Harry Peccinotti yn dangos model Ffrengig yn gwisgo nicers tryloyw, gan arwain at lyfrwerthwyr Hatchards i'w gadw o dan y cownter. Ar ôl dychwelyd o fyw yn Ninas Efrog Newydd yn 1980, gwahanodd o'i ail ŵr Patrick Hughes, ac unwaith eto roedd angen arian arni i dalu am addysg ei merched.[5] Erbyn iddi gyhoeddi ei nofel Breast Stroke ym 1983, roedd wedi dod yn alcoholig. Gyda llwyddiant y tri llyfr, yn ogystal â nifer o erthyglau ar gyfer cylchgronau dynion, fe'i rhestrwyd yn rhif 24 mewn adolygiad cylchgrawn Timeout o awduron erotig gorau Llundain.[6]
Ar ôl cyhoeddi ei hunangofiant "Moll" yn 1993, dechreuodd Parkin beintio unwaith eto, a chynhaliwyd ei arddangosfa gyntaf ers mwy na degawd yn y Washington Gallery ym Mhenarth. Mae llawer o'i gwaith wedi cael ei ysbrydoli gan dirweddau Celtaidd yn enwedig Pontycymer, er bod ei theithiau yn India wedi ysgogi iddi gynhyrchu gweithiau gyda lliwiau cryfach. Yn Hydref 2010, cyhoeddwyd ei atgofion Welcome to Mollywood .[7][8]
Ym Mai 2011 roedd hi'n westai ar y rhaglen Desert Island Discs ar BBC Radio 4.[2]
Ym Mai 2012 dyfarnwyd Pensiwn y Rhestr Sifil iddi gan y Frenhines am ei gwasanaethau i'r celfyddydau.[9]
Yn Chwefror 2016 ymddangosodd mewn pennod o Britain's Weirdest Council Houses ar Channel 4 a chafodd ei ffilmio yn ei fflat cyngor mewn tŵr bloc yn ardal World's End yn Chelsea. Symudodd Parkin i'r fflat yn 2002 ar ôl iddi fynd yn fethdalwr ar ôl cyfnod o alcoholiaeth.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Glover, Michael (9 Gorffennaf 2010). "BP Portrait Award 2010, National Portrait Gallery, London". The Independent. UK. Cyrchwyd 30 Mai 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Desert Island Discs with Molly Parkin".
- ↑ "The Paper Round with Molly Parkin".
- ↑ "Oh mum, PLEASE stop talking about your sex life!". Daily Mail. UK. 3 Mai 2007. Cyrchwyd 2008-04-22.
- ↑ "How we met: John Maybury & Molly Parkin". The Independent. UK. 29 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-23. Cyrchwyd 2008-04-22.
- ↑ "Sex and books: London's most erotic writers". TimeOut. 26 Chwefror 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-14. Cyrchwyd 2008-04-22.
- ↑ Cacciottolo, Mario (30 Hydref 2010). "Molly Parkin: Fashioning her own career". BBC News. Cyrchwyd 3 Ionawr 2012.
- ↑ 'Molly Parkin's racy confessions...", 10 Hydref 2010
- ↑ "Molly Parkin shocked to receive rare honour". Daily Telegraph. 20 Mai 2012. Cyrchwyd 2013-03-10.
- ↑ 'Clive Martin meets the octogenarian artist whose wild social life has been as striking as her painting' - The Guardian 14 Mehefin 2014
Dolenni allanol
golygu- Gwefan bersonol Molly Parkin Archifwyd 2020-11-30 yn y Peiriant Wayback
- Molly Parkin ar yr Internet Movie Database