Y cyflwr meddygol o fod yn gaeth neu gwbl ddibynnol ar alcohol yw alcoholiaeth. Fe'i nodweddir gan ddefnydd direolaeth neu orfodaeth obsesiynol i yfed alcohol er gwaethaf yr effeithiau negyddol ar iechyd, perthynas a safle cymdeithasol yr yfwr. Fel gyda chaethiwed i gyffuriau eraill, diffinnir alcoholiaeth fel clefyd y gellir ei drin.[1] Gelwir rhywun sydd yn y fath gyflwr yn alcoholydd neu alcoholig. Crëwyd y term hwn gan Magnus Huss ym 1849 ond yn ystod y 1980au dechreuwyd defnyddio'r termau "camddefnyddio alcohol" a "dibyniaeth ar alcohol". Weithiau defnyddir y term dibyniaeth ar alcohol i fod yn gyfystyr ag alcoholiaeth.[2][3])

Alcoholiaeth
Enghraifft o'r canlynolsymptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathcamddefnyddio alcohol, syndrom dibyniaeth, anhwylder defnydd sylwedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gin Lane, ysgythriad gan William Hogarth

Cymry a oedd yn ddibynnol ar alcohol golygu

Mae sawl bardd a llenor yn adnabyddus am eu halcoholiaeth, yn cynnwys y llenorion Cymreig Evan Evans (Ieuan Fardd), Goronwy Owen a Dylan Thomas.

Cyfeiriadau golygu

  1.  DEFINITIONS.
  2.  MedlinePlus (15 Ionawr 2009). Alcoholism. National Institute of Health.
  3.  Department of Health and Human Services. Alcohol Dependence (Alcoholism) (PDF). National Institutes of Health.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato