Monk's Hood
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw Monk's Hood ("Cwcwll y Mynach") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1980. Dyma'r drydedd nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1980 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Rhagflaenwyd gan | One Corpse Too Many |
Olynwyd gan | Saint Peter's Fair |
Cymeriadau | Cadfael |
Lleoliad y gwaith | Amwythig, Cymru |
Mae'r stori'n digwydd ym mis Rhagfyr 1138. Mae Gervase Bonel yn marw o olew gwenwynig a roddwyd yn ei fwyd. Cadfael oedd wedi gwneud yr olew fel eli, gan ddefnyddio gwreiddiau planhigion Aconitum – y Monk's Hood ("Cwcwll-y-mynach") yn nheitl y llyfr. Pwy oedd yn ei ddefnyddio fel gwenwyn? Mae Cadfael yn asesu cymhellion teulu Bonel a staff y tŷ, gan gynnwys ei fab naturiol Cymreig a'i lysfab, ac yn delio â gweddw Bonel a fu unwaith yn gariad i Cadfael ers talwm. Mae'r rhingyll yn gweld yr achos yn wahanol i Gadfael.
Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1994.