Yr Ymerodres Matilda
- Gweler hefyd Matilda (gwahaniaethu).
Merch ac etifeddes y brenin Harri I o Loegr oedd Yr Ymerodres Matilda (Ffrangeg, Mahaut; Ffrangeg Normanaidd, Maud; weithiau Maude yn Saesneg); yn ddiweddarach yn Ymerodres Lân Rufeinig, Cowntes Anjou, ac Arglwyddes y Saeson; Chwefror 1102 – 10 Medi 1167). Roedd hi'n wraig i Harri V, Ymerodr Glân Rhufeinig, ac ar ôl hynny yn briod Sieffre V, Cownt Anjou, trwy'r hwn y daeth yn fam Harri II of Loegr.
Yr Ymerodres Matilda | |
---|---|
Ganwyd | c. 7 Chwefror 1102 Sutton Courtenay |
Bu farw | 10 Medi 1167 Rouen |
Swydd | brenhines gydweddog, teyrn |
Tad | Harri I, brenin Lloegr |
Mam | Matilda o'r Alban |
Priod | Henry V, Geoffrey Plantagenet |
Plant | Harri II, brenin Lloegr, Geoffrey, iarll Nantes, William Fitzempress, Emme o Anjou |
Llinach | Llinach y Plantagenet |
Matilda oedd y ferch gyntaf i reoli Teyrnas Lloegr ar ôl ymdrech hir yn erbyn y brenin Steffan o Loegr a'i gefnogwyr. Ond golygodd ei methiant i sicrhau ei theyrnasiad mai byr fu ei rheolaeth ddi-wrthwynebiad, rhwng Mai a Thachwedd 1141; mewn canlyniad tueddir i'w hebgor o restrau o frenhinoedd a breninesau Lloegr. Ni chafodd ei choroni ond mabwysiadodd y teitl 'Arglwyddes y Saeson'.
Ei hanes
golyguGanwyd Matilda yn Chwefror (y 7fed neu'r 11eg efallai) 1102 yn ferch i Harri I, brenin Lloegr a'i wraig Matilda o'r Alban. Ar ochr ei mam roedd hi'n wyres i Malcolm III, brenin yr Alban, a'r Santes Margaret o'r Alban, wyres Edmwnd II, brenin Lloegr. Credir iddi gael ei geni yng Nghaerwynt neu efallai yn Berkshire.
Yn 1114, a hithau'n ferch 12 oed, priododd Harri V (Henri V), Ymerodr Glân Rhufeinig. Pan fu farw Harri V ym 1125, dychwelodd Matilda i Loegr a chafodd ei chydnabod yn etifeddes coron Lloegr. Ym 1128, priododd â Sieffre, Cownt Anjou (Geoffroi neu Geoffrey Plantagenet). Ganwyd mab iddi, Henri, a ddaeth yn ddiweddarach yn Harri II, brenin Lloegr.
Ar farwolaeth Harri I ym 1135, cipiodd ei nai Steffan o Blois (Steffan, brenin Lloegr) y goron. Ym 1139, hwyliodd Matilda i Loegr gyda'i hanner-frawd Robert, Iarll Caerloyw, i oresgyn teyrnas Lloegr. Llwyddasant i orchfygu Steffan a'i ddal am gyfnod byr, ond tyfodd y gefnogaeth i Steffan ymhlith y barwniaid a bu rhaid i Fatilda ildio'r orsedd ym 1148 a ffoi i'w frawd yn Normandi.
Llyfryddiaeth
golygu- Bradbury, J. (1996) Stephen and Matilda: the Civil War of 1139-1153, Sutton Publishing, ISBN 0-7509-0612-X
- Chibnall,Marjorie (1991) The Empress Matilda: Queen Consort, Queen Mother, and Lady of the English
- Pain, Nesta (1978) Empress Matilda: Uncrowned Queen of England
- Parsons, John Carmi 'Medieval Mothering (New Middle Ages)