Prifddinas a dinas fwyaf ynysoedd Comoros yw Moroni (Arabeg موروني Mūrūnī). Mae'n brifddinas y wlad er 1962. Roedd ganddi boblogaeth o tua 60,200 (amcangyfrifiad 2003).[1] Lleolir y ddinas ar arfordir gorllewinol ynys Grande Comore. Gwasanaethir Moroni gan Maes Awyr Rhyngwladol y Tywysog Said Ibrahim (Cyfeirnod IATA: HAH). Ceir hefyd harbwr gyda cysylltiadau llon reholaidd i dir mawr Affrica ac ynysoedd eraill ynysfor Comoros, ynghyd â Madagasgar ac ynysoedd eraill yng Nghefnfor India. Mae'r allforion o'r borthladd yn cynnwys fanila, coco, a choffi.

Moroni
Mathdinas, prifddinas, dinas fawr, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth62,351, 74,749, 17,267, 29,916, 40,050, 62,000, 61,200 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGrande Comore Edit this on Wikidata
GwladBaner Comoros Comoros
Arwynebedd30 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr29 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau11.7036°S 43.2536°E Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ar draeth Moroni

Cyfeiriadau golygu

  1. "USA Today Travel Guides". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-27. Cyrchwyd 2008-03-03.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Comoros. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.