Morton Prince
Seicolegydd a meddyg o'r Unol Daleithiau oedd Morton Henry Prince (21 Rhagfyr 1854 – 31 Awst 1929) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau cynnar at niwroleg a seicoleg annormal.
Morton Prince | |
---|---|
Morton Prince ym 1916 | |
Ganwyd | Morton Henry Prince 21 Rhagfyr 1854 Boston |
Bu farw | 31 Awst 1929 Boston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiciatrydd, niwrolegydd, seicolegydd |
Cyflogwr |
Ganed yn Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau America. Darlithiodd ar bwnc niwroleg yn Ysgol Feddygol Harvard (Boston) o 1895 i 1898 ac yn Ysgol Feddygol Coleg Tufts (Medford, Massachusetts) o 1902 i 1912. Wrth ei waith yn feddyg, Prince oedd un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio hypnosis i archwilio seicopatholeg ei gleifion ac i'w trin drwy seicotherapi. Prince oedd arloeswr y "niwrogram", sef cofnod niwrolegol o ymddygiad seicolegol y claf, a fe fformiwleiddiodd gysyniad y "cydymwybod".[1]
Sefydlodd y Journal of Abnormal Psychology ym 1906, a bu'n golygu'r cyfnodolyn hwnnw nes 1929. Ymhlith ei lyfrau mae The Dissociation of a Personality (1906) ar bwnc amlbersonoliaeth, The Unconscious (1914), a Clinical Experimental Studies in Personality (1929). Sefydlodd Clinig Seicolegol Harvard ym 1927. Bu farw yn Boston yn 74 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Morton Prince. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Chwefror 2021.