Morwenna (santes)

santes Geltaidd

Santes Gernyweg o'r 6g oedd Morwenna a elwir Mwynen yng Nghymru.

Morwenna
GanwydDe Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwCernyw Edit this on Wikidata
Man preswylCernyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl8 Gorffennaf Edit this on Wikidata
TadBrynach Wyddel Edit this on Wikidata
MamCymorth Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Roedd Mwynen yn ferch i Cymorth a Brynach ac felly'n gor-wyres i Brychan. Roedd ganddi dair chwaer: Mynfer, Mabyn ac Endelyn (Endellion). Symudodd ei rhieni a'i chwaer Mynfer i Gernyw o dde Cymru cyn iddi cael ei geni. Mae'r cofnod cynharaf ohoni'n dyddio o'r 12g. Rhoddodd ei henw i Morwenstow yng Ngogledd Cernyw a chredir fod ei henw Cernyweg yn tarddu o'r gair 'morwyn'.[1] Yn y ddogfen The Life of Nectan of Hartland y ceir y cofnod cynharaf ohoni, mae'n debyg, a hynny yn y 12g, ynghyd â seintiau eraill o'r ardal, sef Mabyn a Menfre.[2][3]

Teithiodd i Hennacliff, Gernyw a alwyd yn ddiweddarach yn Morwenstowe. Saif ei heglwys ar gopa bryncyn sy'n edrych dros fôr garw Cefnfor yr Iwerydd a lle gellir gweld Cymru ar ddiwrnod clir. Dywedir iddi godi'r eglwys gyda'i dwylo'i hun a thrwy gario'r cerrig o waelod y graig i'r copa, ar ei phen. O'r fan lle gorffwysodd (rhwng y ffordd o'r traeth i ben y bryn), tarddodd ffynnon.[3][4] Ceir chwedl amdani yn ei henaint, bron a marw, ac iddi ofyn i Nectan i'w chodi ar ei heistedd yn y gwely, er mwyn iddi gael cip ar y môr, am y tro olaf. Dywedir iddi gael ei chladdu yn Eglwys Morwenstow.[4]

Sant Morwenna oedd enw'r eglwys ym Morwenstowe hyd at c. 1275 pan roddwyd yr eglwys dan ofalaeth ysbyty Sant Ioan, Bridgwater ac ychwangywd ei enw yntau.[5] Santes cwbwl wahanol oedd "Marwenne" o Marhamchurch, noddwraig Eglwys Lamorran and Merther, a sant "Moren".[2][6]

Llun ar y wal golygu

Roedd paentiad o Forwenna ar un o furiau mewnol yr eglwys, tan yn ddiweddar, llun ohoni gyda sgrôl yn ei llaw chwith yn cael ei ddal yn erbyn ei bron, a'i braich dde wedi'i godi gan sancteiddio mynach a oedd yn penlinio o'i blaen. Cofnodwyd ei bod yn edrych yn 'fain ac esgyrnog'.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Baring-Gould, Sabine (1914), The Lives of the Saints, J. Grant, tud. 263.
  2. 2.0 2.1 Orme, Nicholas (2000). The Saints of Cornwall, tud. 196, ar Google Books, Oxford University Press, p. 196.
  3. 3.0 3.1 Spencer,R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llannerch
  4. 4.0 4.1 4.2 "St. Morwenna of Morwenstow, Cornwall", Antiochian Orthodox Christian Church
  5. "Morwenstow". iWalk North Cornwall. Cyrchwyd 20 Ionawr 2013.
  6. Ford, David Nash. "EBK: St. Morwenna". Nash Ford Publishing. Cyrchwyd 18 Ionawr 2013.