Sabine Baring-Gould

hagiograffydd Saesneg, hynafiaethydd, nofelydd, ysgolhaig eclectig, casglwr caneuon gwerin (1834-1924)

Offeiriad Eglwys Loegr, awdur a chasglwr caneuon gwerin Seisnig oedd Sabine Baring-Gould (28 Ionawr 18342 Ionawr 1924).[1]

Sabine Baring-Gould
Ganwyd28 Ionawr 1834 Edit this on Wikidata
Caerwysg Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ionawr 1924 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd, ysgrifennwr, nofelydd, arbenigwr mewn llên gwerin, cyfieithydd Edit this on Wikidata
TadEdward Baring-Gould Edit this on Wikidata
MamSophia Charlotte Bond Edit this on Wikidata
PriodGrace Taylor Edit this on Wikidata
PlantMary Baring-Gould, Margaret Baring-Gould, Edward Sabine Baring-Gould, Beatrice Gracieuse Baring-Gould, Veronica Baring-Gould, Julian Baring-Gould, William Drake Baring-Gould, Barbara Baring-Gould, Diana Amelia Baring-Gould, Felicitas Baring-Gould, Henry Baring-Gould, Joan Baring-Gould, Cicely Sophia Baring-Gould, John Hilary Baring-Gould, Grace Baring-Gould Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Baring-Gould yn Dix's Field, Caerwysg yn blentyn i Edward Baring-Gould, capten yn lluoedd arfog Cwmni Dwyrain India, a Sophia Charlotte (née Bond).[2] Roedd Taid Baring-Gould yn sgweier Lew Trenchard, Dyfnaint ac ar ei farwolaeth ef dyrchafwyd ei dad yn Sgweier. Ym 1837 aeth y teulu ar daith trwy Ewrop gan ddychwelyd ym 1844 er mwyn i Sabine cychwyn ei addysg. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Coleg y Brenin, Llundain, o 1844 i 1846. Ym 1847 mynychodd ysgol ramadeg Warwick. Oherwydd iechyd bregus fe'i tynnwyd allan o'r ysgol ac aeth y teulu yn ôl i deithio Ewrop. Ar y daith cafodd Sabine a'i frawd eu dysgu gan diwtoriaid preifat. Ym 1853 aeth Baring-Gould i Goleg Clare, Caergrawnt i astudio'r Clasuron.[3]

Gyrfa golygu

Yn y coleg cafodd Bairing-Gould ei ddylanwadu gan fudiad crefyddol Tractariaeth (mudiad o Uchel Eglwyswyr yn Eglwys Loegr a ddatblygodd yn y pen draw i Eingl-Gatholigiaeth). O dan ddylanwad y mudiad penderfynodd ei fod am gael ei ordeinio yn offeiriad Uchel Eglwysig. Cafodd ei gynlluniau eu gwrthwynebu gan ei deulu. Fel sgweier roedd ei dad yn rheoli bywoliaeth eglwysig plwyf Lew Trenchard. Y disgwyliad oedd byddai'r mab hynaf yn etifeddu rôl y sgweier ar ei farwolaeth, gyda'r mab iau yn cael ei ordeinio ac yn cael y fywoliaeth eglwysig deuluol.

Wedi ei siomi, trodd Baring-Gould at ddysgu, gan ddod yn athro yn ysgol gorawl St Barnabas, Pimlico. Symudodd i ysgol Lancing, ac yna i Goleg Hurstpierpoint.

Ym 1863 newidiodd ei rieni eu meddyliau am ei yrfa eglwysig, oherwydd bod ei frawd wedi gwrthod dod yn offeiriad. Ym 1864 penodwyd Baring-Gould yn ddiacon Ripon. Ym 1865 cafodd ei ordeinio yn offeiriad a'i anfon i ardal arw Horbury Brig i drefnu cenhadaeth eglwys. Ym 1867 fe'i penodwyd yn gurad gwastadol yn Dalton, Swydd Efrog. Ym 1871 cynigiodd W. E. Gladstone, y prif weinidog bywoliaeth eglwysig dan reolaeth y goron yn East Mersea, Essex, iddo. Pan fu farw ei dad ym 1872, etifeddodd Baring-Gould yr ystâd yn Nyfnaint, ond arhosodd ei ewythr oedrannus yn beriglor Lew Trenchard. Bu farw ei ewythr ym 1881, a gwnaeth Baring-Gould ei hun yn Rheithor ar eglwys y teulu a symud i fyw i Lew house, blasty ei ystâd.[4]

Caneuon gwerin golygu

Roedd Baring-Gould yn ystyried mai ei brif gyflawniad oedd y casgliad o ganeuon gwerin a wnaeth gyda chymorth gwerinwyr Dyfnaint a Chernyw. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf o ganeuon, Songs and Ballads of the West (1889-91), mewn pedair rhan rhwng 1889 a 1891. Golygydd cerddorol y casgliad hwn oedd Henry Fleetwood Sheppard, er bod rhai o'r caneuon a gynhwyswyd wedi eu nodi gan gydweithredwr arall i Baring-Gould, Frederick Bussell.[5]

Cynhyrchodd Baring-Gould a Sheppard ail gasgliad o’r enw A Garland of Country Songs yn ystod 1895. Cyhoeddwyd rhifyn newydd o Songs of the West ym 1905. Roedd Sheppard wedi marw ym 1901, ac felly gwahoddwyd y casglwr caneuon gwerin Cecil Sharp i ymgymryd â'r olygyddiaeth gerddorol ar gyfer y rhifyn newydd. Cydweithiodd Sharp a Baring-Gould hefyd ar English Folk Songs for Schools yn ystod 1907. Defnyddiwyd y casgliad hwn o 53 cân yn helaeth yn ysgolion Prydain am y 60 mlynedd nesaf.

Bu'n rhaid iddo addasu geiriau rhai o'r caneuon yn ei gasgliadau a oedd yn cael eu hystyried yn rhy anweddus i'w cyhoeddi yn y cyfnod. Cadwodd ei lawysgrifau gwreiddiol, gan gynnwys y geiriau anweddus, at ddefnydd eraill oedd am eu hastudio yn y dyfodol. Rhoddodd Baring-Gould y copïau teg o'r caneuon gwerin a gasglodd, ynghyd â'r llyfrau nodiadau a ddefnyddiodd ar gyfer casglu gwybodaeth yn y maes, i Lyfrgell Gyhoeddus Plymouth ym 1914. Fe'u hadneuwyd i Archifdy Plymouth a West Devon yn 2006. Mae tri deg blwch o ddeunydd llawysgrif ychwanegol ar bynciau eraill (llawysgrifau Killerton) yn cael eu cadw yng Nghanolfan Hanes Dyfnaint yng Nghaerwysg.

Llenyddiaeth golygu

Ysgrifennodd Baring-Gould nifer o lyfrau ffeithiol a ffuglen. Ysgrifennodd dros ddeugain o nofelau; dros drigain o gyfrolau diwinyddol o bregethau, emynau, a llyfrau defosiynol; pedwar ar hugain o lyfrau tywys a theithio; ugain o lyfrau diddordeb cyffredinol; ynghyd a'i gasgliadau caneuon gwerin. Ailargraffwyd ei lyfrau yn gyson, mae llawer ohonynt dal mewn print.

Roedd ei lyfrau poblogaidd cyntaf yn ymwneud â llen gwerin Book of Were-Wolves (1865) a dwy gyfrol Curious Myths of the Middle Ages (1866, 1868). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Through Flood and Flame ym 1868. Roedd ei lyfr diwinyddol Origin and Development of Religious Belief (1869, 1870) yn un ddadleuol; mae'r llyfr yn defnyddio damcaniaeth Darwin i drafod esblygiad yr eglwys. Cafodd y llyfr ei gondemnio gan Yr Eglwys Gatholig, Eglwys Loegr ac eglwysi anghydffurfiol efengylaidd ond roedd eglwyswyr mwy rhyddfrydol, gan gynnwys Gladstone, yn ei glodfori. Ei waith mwyaf oedd y 15 gyfrol o fywgraffiadau tua 3,600 o Saint Lives of the Saints a gyhoeddwyd rhwng 1872 a 1877.[6] Ysgrifennodd dwy gyfrol hunangofiant: Early Reminiscences, 1834-1864 a Further Reminiscences, 1864-1894.

Cyhoeddodd nifer o emynau yng Nghylchgronau a llyfrau emynau Eglwys Loegr. Mae dau o'i emynau yn parhau yn boblogaidd hyd heddiw Onward Christian Soldiers,[7] sy'n cael ei ddefnyddio fel prif ymdeithgan Byddin yr Iachawdwriaeth a Now the day is over [8] a ganwyd ar fwrdd y Titanic.

Teulu golygu

Priododd Bairing-Gould Grace Taylor, hogan ffatri anllythrennog, ym 1868. Doedd ei rieni ef ddim yn cymeradwyo'r briodas gan ei bod hi'n rhy gomon a doedd ei rhieni hi ddim yn cymeradwyo gan ei fod ef yn rhy bosh. Gwrthododd y ddau deulu mynychu'r briodas. Cawsant 15 o blant.[9]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref, Lew House, ar 2 Ionawr 1924, yn 89 mlwydd a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Lew Trenchard wrth ymyl ei wraig a fu farw ym 1916.[10]

Llyfryddiaeth (anghyflawn) golygu

  • A Book of the Pyrenees (1907)
  • Court Royal (1891)
  • A Book of Dartmoor (1900)
  • A Book of North Wales (1903)
  • Amazing Adventures, illustrated by Harry B. Neilson (1903)
  • A Book of Ghosts (1904)
  • A Book of South Wales (1905)
  • A Book of the Rhine from Cleve to Mainz (1906)
  • A Book of The West: Being An Introduction To Devon and Cornwall (2 Gyfrol, 1899)
  • A First Series of Village Preaching for a Year (1875)
  • A Second Series of Village Preaching for a Year (1884)
  • An Old English Home and its Dependencies, London, 1898
  • Arminell (1889)
  • Bladys of the Stewponey (1919)
  • Cliff Castles and Cave Dwellings of Europe (1911)
  • Cheap Jack Zita (1896)
  • Cornwall (Cambridge County Geographies) (1909)
  • Cornish Characters (1909)
  • Curiosities of Olden Times (1896)
  • Curious Myths of the Middle Ages (1866)
  • Dartmoor Idylls (1896)
  • Devon (1907) (Methuen's Little Guide on Devonshire)
  • Devon Characters and Strange Events (1908)
  • Domitia (1898)
  • Eve (1888)
  • Family Names and their story (1910)
  • Grettir the Outlaw: a story of Iceland (1890)
  • Iceland, Its Scenes and Its Sagas (1862)
  • In Exitu Israel, (1870)
  • In the Roar of the Sea (1891)
  • In Troubadour Land: A Ramble in Provence and Languedoc (1890)
  • John Herring (1883-1886)
  • Legendary Lives of Old Testament Characters, (1871)
  • Legends of the Patriarchs and Prophets (from the fall of the angels to the death of Solomon).
  • Lives of the British Saints 8 gyfrol (1907 i 1913)
  • Mehalah, A Story of the Salt Marshes (1880)
  • Noemi (1895)
  • Old Country Life (1889)
  • One Hundred Sermon Sketches for Extempore Preachers, (1872)
  • Pabo, The Priest (1899)
  • Post-Mediæval Preachers, (1865)
  • Red Spider (1887)
  • Richard Cable (1888)
  • Secular v Religious Education, (1872)
  • Sermons on the Seven Last words (1884)
  • Sermons to Children (1879)
  • Songs of the West: Folksongs of Devon & Cornwall (1905)
  • The Book of Were-Wolves, being an account of a terrible superstition (1865)
  • The Broom-Squire (1896)
  • The Church Revival, (1914)
  • The Evangelical Revival, (1920)
  • The Gaverocks (1887-1888)
  • The Golden Gate, (1870)
  • The Life of Napoleon Bonaparte (1908)
  • The Lives of the Saints 15 cyfrol (1872 i 1877)
  • The Path of the Just (1854)
  • The Mystery of Suffering (1887)
  • The Pennycomequicks (1889)
  • The Preacher's Pocket (1880)
  • The Silver Store, (1870 - 1883)
  • The Tragedy of the Caesars (1892)
  • The Village Pulpit (1886)
  • The Vicar of Morwenstow, being a life of Robert Stephen Hawker (1876)
  • Urith (1890)
  • Village Preaching for Saints' Days
  • Virgin Saints and Martyrs, (1900)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gould, Sabine Baring- (1834–1924), Church of England clergyman, author, and folksong collector | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-12-10.
  2. "Baring-Gould, Sabine, (28 Jan. 1834–2 Jan. 1924), JP; Hon. Fellow of Clare College, Cambridge; Rector, Lew-Trenchard, Devon | WHO'S WHO & WHO WAS WHO". www.ukwhoswho.com. Cyrchwyd 2019-12-10.
  3. "Gould (or Baring-Gould), Sabine Baring (GLT852SB)"". A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2019.
  4. "Cambridge Dictionary of Hymnology". hymnology.hymnsam.co.uk. Cyrchwyd 2019-12-10.
  5. "Baring-Gould, Sabine | Grove Music". www.oxfordmusiconline.com. Cyrchwyd 2019-12-10.
  6. "S. Baring-Gould | Hymnary.org". hymnary.org. Cyrchwyd 2019-12-10.
  7. "Onward, Christian Soldiers - Lyrics, Hymn Meaning and Story". GodTube. Cyrchwyd 2019-12-10.
  8. "Now the Day is Over". Encyclopedia Titanica. 2005-10-12. Cyrchwyd 2019-12-10.
  9. "SBGAS 2018 – The website of the Sabine Baring-Gould Appreciation Society". sbgas.org. Cyrchwyd 2019-12-10.
  10. BBC. "Sabine Baring-Gould". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2019-12-10.