Mae Mosg Hassan II yn fosg newydd anferth yn ninas Casablanca, Moroco. Fe'i henwir ar ôl Hassan II, brenin Moroco.

Fe'i lleolir ar safle trawiadol ar lan y môr i'r gogledd o'r hen fedina. Mosg Hassan II yw'r adeilad crefyddol trydydd mwyaf yn y byd. Fe'i agorwyd yn 1993 ar ôl i dros 5,000 o grefftwyr Morocaidd fod wrthi am bum mlynedd i'w haddurno. Costiodd tua $600 miliwn i'w hadeiladu a honnir fod yr arian i gyd wedi dod o danysgrifiadau a rhoddion gan y cyhoedd.

Mae 'na ddigon o le i 25,000 tu mewn a 80,000 ychwanegol yn y cwrt. Teflir pelydrau laser o ben y minaret yn y nos ac mae popeth amdani'n fodern iawn, er ei bod yn enghraifft wych o grefftwaith traddodiadol ar yr un pryd.