Meindwr

(Ailgyfeiriad o Minaret)

Rhan o bensaernïaeth mosg ydy minarét (lluosog: minaretau, minaréts)[1] neu minaréd (lluosog: minaredau)[2] (Arabeg Safonol: Manâra). Fel arfer, tŵr sy'n codi'n uwch na'r adeiladau eraill ydyw. Pwrpas yw minarét ydy darparu lle uchel i'r muezzin i alw pobl i weddïo.

Minarét hynafol Mosg Reyhane, Mardin, dwyrain Twrci.

Mae saith minarét i gyd yn y Mosg Mawr ym Mecca. Gan mai dyma'r mosg pwysicaf, dim ond uchafswm o chwe minarét sydd gan bob mosg arall, fel y Mosg Glas yn Istanbwl yn Nhwrci.

Geirdarddiad

golygu

Yn ôl rhai awdurdodau mae'r gair "minaret" yn deillio o'r bôn Arabeg adhân, sy'n golygu "galw". Daw tri air o'r bôn hwnnw:

  • galw i weddïo (Arabeg: أذان ['aδān])
  • muezzin (Arabeg: مُؤَذِّن [mu'waδδin])
  • minaret (Arabeg : مِئْذَنة[mi'δana])

Fodd bynnag mae awdurdodau eraill yn dadlau mai'r gair Arabeg manâra ("goleudy; man lle ceir tân neu oleuni") yw ffynhonnell y gair "minaret (manara).

Mae'r ffurfiau Cymraeg "minarét" a "minaréd" yn dyddio o'r flwyddyn 1866.[2]

Cynseiliau pensaernïol posibl

golygu

Awgrymir y canlynol fel cynseiliau pensaernïol i'r minarét:

1. Tyrau beddrod brodorol o ddiwedd y cyfnod clasurol, a welir yn Palmyra, er enghraifft.
2. Obelisgs yr hen Aifft.
3. Massebah - math arall o dyrau beddrod nodweddiadol Semitaidd
4. Goleudai'r Hen Fyd, e.e. Pharos Alexandria.
5. Datblygiad naturiol o onglau dyrchafedig y mosg Ummayad cyntaf ym Mecca (a hynny'n mwynhau awdurdod sancteiddrwydd).

Mathau o finarét

golygu

Mae sawl math gwahanol o finarét gan ddibynnu ar arddull pensaernïol y mosg. Fel rheol caeth eu dosbarthu'n fras mewn tri dosbarth hanesyddol:

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: