Mu Arae d
Mae Mu Arae d yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren Mu Arae yng nghytser Ara. Mae crynswth y blaned yma yn ddeg gwaith yn fwy na'r Ddaear. Mae hi'n cylchio'n agos iawn at y seren, ac yn ei chylchio bob 9.6 o ddyddiau. Credir ei bod yn blaned greigiog, oherwydd - mewn theori - gallai planed ddaearol fod yn 14 gwaith yn fwy na'r Ddaear, ac mae'n bosib y gallai'r fath blaned greigiog ffurfio oherwydd yr wmbredd o elfennau metelaidd yn y seren. Am y rhesymau hyn mae hi'n cael ei disgrifio fel super-earth. Mae arwyneb y blaned yn sicr o fod yn boeth iawn yn cylchio mor agos at ei seren, ac amcangyfrifir tymheredd ei harwyneb i fod tua 900 K, a'r arwyneb yn debyg o fod yn folcanig. Fel canlyniad mae'r posibilrwydd o fywyd yn bodoli ar y blaned yn annhebyg iawn. Mae posibilrwydd amgen fod y blaned yn gawr nwy bach yn debyg i Wranws (planed) neu Neifion.
Math o gyfrwng | planed allheulol |
---|---|
Màs | 0.5219 |
Dyddiad darganfod | 5 Awst 2006, Hydref 2004 |
Cytser | Ara |
Echreiddiad orbital | 0.184 ±0.2 |
Paralacs (π) | 64.0817 ±0.12 |