Neifion (symbol: ♆) yw'r wythfed blaned oddi wrth yr Haul. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag Wranws ond yn fwy ei chrynswth. Hi yw'r lleiaf, yr oeraf a'r bellaf o'r pedair blaned fawr a elwir yn gewri nwy – er y byddai cewri rhew yn well disgrifiadau o Wranws a Neifion am fod y nwyon, sydd â'r rhan amlycaf yn eu cyfansoddiad, wedi rhewi'n gorn bron i gyd.

  • Cylchdro: 4,504,000,000 km (30.06 o Unedau Seryddol) oddi wrth yr Haul.
  • Tryfesur: 49,532 km (ar ei chyhydedd)
  • Cynhwysedd: 1.0247e26 kg
Llun gwir-liw o Neifion, a gymerwyd gan Voyager 2 yn 1989

Duw yr eigion yw Neifion ym mytholeg Rufeinig.

Gwelwyd y blaned Neifion gan y seryddwr Galileo yn 1612, ond camdybiodd ei fod e'n edrych ar blaned, gan gymryd ei bod yn seren.

Enw golygu

Wrth lwc ni chafwyd fawr o drafferth enwi'r corff newydd. Ddim fel yn achos Wranws, a ddarganfuwyd yn 1781, lle bu anghytuno am 70 mlynedd cyn i'r enw gael ei dderbyn. Eisoes roedd y prif dduwiau clasurol (Rhufeinig yn bennaf) wedi eu cynrychioli'n deilwng wrth enwi'r planedau, ond roedd dau go amlwg ar ôl, sef Neifion a Phlwto, brodyr Iau y prif dduw. Yn ôl y chwedl, wedi i Iau drechu ei dad, Sadwrn, aeth y tri brawd ati i dynnu byrraf docyn i benderfynu pwy fyddai'n dduw ar yr awyr, y môr ac annwfn – yr arallfyd. O ganlyniad, Iau gafodd yr awyr, Neifion y moroedd a Phlwto yr arallfyd.

Roedd hynny'n siwtio personoliaeth Neifion i'r dim. Un anwadal a therfysglyd ei dymer oedd e beth bynnag ac yn hoff iawn o geffylau gwynion – fel y gwelwn weithiau yn carlamu ar frig y tonnau adeg storm. Cyd-ddigwyddiad ffodus a rhyfeddol iawn oedd bod lliw y blaned Neifion, pan gafwyd telesgop digon cryf i'w weld yn iawn, yn las tywyll fel y moroedd gydag ambell gwmwl gwyn ar ei hwyneb – yn union fel tonnau'n brigo.

Darganfod golygu

Darganfuwyd Neifion ym 1846[1] Mae Neifion wedi cael un ymweliad gan ofodlestr, sef Voyager 2, ar y 25ain o fis Awst, 1989.

Mae Neifion yn ymddangos gyntaf fel un o'r sêr gofnodwyd gan Galileo o gwmpas y blaned Iau yn 1612 a 1613. Ond am ei bod yn symud mor eithriadol o araf fe fethodd Galileo a deall ei bod yn wahanol, gan feddwl mai seren sefydlog oedd hi.

Yn 1821 cyhoeddodd y Ffrancwr Alexis Bouvard dablau i ddisgrifio symudiadau Iwranws. Ond am ryw reswm doedd y blaned honno ddim yn dilyn y llwybr disgwyliedig yn ddigon manwl. Wedi ail fesur ac ailweithio ei ffigyrau dros nifer o flynyddoedd cynigiodd mai tynfa rhyw gorff neu blaned arall, ymhellach allan oedd yn achosi'r anghysondeb.

Erbyn 1843 roedd John Couch Adams yn Lloegr wedi pennu lle dylid chwilio am y blaned ddirgel. Aeth at y Seryddwr Brenhinol yn Grenwich ac at bennaeth Gwylfa Caergrawnt i ofyn iddynt chwilio, ond wnaethon nhw ddim a gwneud hynny o ddifri. Ond yn ddiarwybod i'r seryddwyr yn Lloegr, roedd le Verrier ym Mharis hefyd wedi darganfod lle i chwliio. Drwy gyd-ddigwyddiad roedd yntau, yn yr un modd, wedi cael trafferth i berswadio arsyllwyr yn Ffrainc i weithredu am eu bod hwythau, fel y Saeson, yn amheus o'r fath ganlyniadau. Gyrrodd le Verrier ei nodiadau i arsyllfa Berlin, a'r noson honno dyma'r Almaenwyr yn troi eu telesgop i'r rhan o'r awyr y'u cyfeiriwyd nhw ati ac o fewn chydig funudau roeddent wedi canfod y blaned newydd.

Cyfansoddiad golygu

Mae lliw gwyrddlas Neifion yn ganlyniad i fethan yn yr awyrgylch yn llyncu golau coch, ond mae hefyd rhyw chromoffor anhysbys sy'n rhoi i'r cymylau eu lliw glas goludog. Fe roedd y lluniau gwreiddiol a ryddhawyd gan NASA o chwiledydd Voyager 2 yn dangos lliw glas dwfn, i gymharu. Dangosodd papur ymchwil yn 2024 nad oedd gwir liw y blaned. Roedd y llun gwreiddiol wedi ei addasu er mwyn dangos manylion yr atmosffer. Mae'r gwir liw yn oleuach ac yn debycach i'r blaned Wranws, gyda ychydig bach mwy o las.[2]

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Neifion wyntoedd cyflym wedi eu cyfyngu i rwymynnau o ledred a stormydd enfawr neu drobyllau. Gwyntoedd Neifion yw'r cyflymaf yng Nghysawd yr Haul, yn cyrraedd 2000 km yr awr. Fel Iau a Sadwrn, mae gan Neifion ei ffynhonnell wres ei hun - yn rheiddiadu dwywaith yr egni y mae hi'n derbyn o'r Haul.

Mae cyfansoddiad Neifion yn debyg i gyfansoddiad Wranws: rhewogydd a chreigiau amrywiol a rhyw 15% hydrogen gydag ychydig o heliwm. Fel Wranws, ond yn wahanol i Iau a Sadwrn, gallai fod nad oes ganddi haenau gwahanol mewnol eithr ei bod mwy neu lai'n unffurf ei chyfansoddiad. Ond mae'n debyg fod ganddi galon fach greigiog, tua'r un maint â'r Ddaear. Mae awyrgylch Neifion wedi ei gyfansoddi o hydrogen a heliwm ac yn cynnwys methan.

Fel yn achos y cewri eraill ni ellir gweld wyneb Neifion, sy' wedi ei guddio dan haen o darth a chymylau trwchus mewn atmosffer o hydrogen a heliwm yn bennaf, gyda rhyw chydig o fethan yn ychwanegol. Glas tywyll yw lliw Neifion gydag ambell gwmwl gwyn yn gwibio o'i chwmpas ond o bryd i'w gilydd gwelir smotiau mawr tywyll hefyd. Stormydd enbyd yw'r rhain – tebyg i'r smotyn mawr coch ar Iau mewn gwirionedd. O dan y cymylau ceir haen drwchus iawn o rew, sydd wedi ei wneud o ddŵr, methan ag amonia, yn amgylchynu cnewyllyn bychan creigiog.

Gorwedda Neifion tua 2.8 biliwn o filltiroedd o'r haul, sydd tua x30 gwaith pellach i'r gofod na'n Daear ni. O ganlyniad mae ei blwyddyn hi yn hir iawn: mae'n cymryd 165 o'n blynyddoedd ni i fynd un waith o amgylch yr haul.

Ond os yw ei blwyddyn yn hir mae ei dydd yn fyr – 16 awr. Am ei bod cymaint mwy (x57) na'r ddaear golyga hynny ei bod yn troi'n eithriadol o gyflym, sy'n creu'r gwyntoedd ffyrnicaf geir ar unrhyw un o blanedau'r haul: 600 – 700mya yn arferol a hyd at 1,200mya o gwmpas y smotiau mawr tywyll.

Modrwyau golygu

Mae gan Neifion fodrwyau hefyd. Mae gan un ohonynt strwythur wedi ei dirwyn (uchod). Fel Iau ac Wranws mae modrwyau Neifion yn dywyll, ond mae eu cyfansoddiad yn anhysbys. Mae gan modrwyau Neifion enwau: y fwyaf allanol yw Adams, sy'n cynnwys tri bwa amlwg wedi eu henwi fel Rhyddid, Cydraddoldeb a Brawdoliaeth. Y nesaf ydy un ddi-enw sy'n cyd-gylchio gyda Galatea, yna Leverrier ac yn olaf Galle.

Dim ond un llong ofod – Voyager 2 – sydd wedi galw heibio Neifion hyd yn hyn a hynny yn 1989 ar ôl taith o 12 mlynedd. Erbyn iddi gyrraedd roedd yr offer cyfrifiadurol arni wedi mynd yn eithriadol o hen ffasiwn. Ond, wrth lwc, er bod y signalau ohoni wedi gorfod teithio dros 4 biliwn o filltiroedd adre i'r ddaear, a bod eu nerth yn x20 biliwn gwaith gwannach na'r golau o wyneb oriawr ddigidol, roedd cyfrifiaduron daearol wedi gwella digon i fedru eu derbyn a'u prosesu fel y gellid gweld Neifion yn ei holl ogoniant.

Cadarnhaodd Voyager fod cylchoedd main gwan yn cylchdroi am Neifion, 4 ohonynt i gyd, sy'n ei gwneud yn debyg i'r cewri nwy eraill. Ar ben hynny ychwanegwyd 6 lleuad newydd at y 7 welwyd eisoes drwy delesgop – sy'n dod â'r cyfanswm i 13. Y mwyaf o'r rhain yw Triton – y corff oeraf fesurwyd hyd yn hyn yng Nghysawd yr Haul: -235 °C. Enwyd Triton ar ôl tryfer duw'r môr.

Lloerennau golygu

Mae gan Neifion 13 lloeren; 7 bach gydag enwau, Triton, 4 wedi eu darganfod yn 2002 ac un wedi ei darganfod yn 2003 sydd eto i gael ei henwi.

Astroleg golygu

Bu i Neifion, fel Iwranws a ddarganfyddwyd 65 mlynedd ynghynt, achosi cryn dipyn o grafu pen i astrolegwyr oherwydd doedd y planedau 'newydd' hyn ddim yn ffitio i'r drefn arferol. Ers miloedd o flynyddoedd ystyrid bod y planedau, wrth iddynt deithio'n araf ar eu llwybr drwy gytserau'r Sidydd, yn dylanwadu ar ffawd pobol y ddaear. Ond rwan dyma ddau newydd a rheiny heb unrhyw effeithiau gwybyddus. Roedd hyn yn codi'r cwestiwn: os oedd yna y fath blanedau dieffaith onid oedd hynny'n codi amheuaeth am effeithiau'r 'hen' blanedau hefyd ac felly am ddilysrwydd astroleg yn gyfangwbwl?

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Saesneg: Neptune's capture of its moon Triton in a binary–planet gravitational encounter
  2. "Neptune and Uranus seen in true colours for first time". BBC News (yn Saesneg). 2024-01-05. Cyrchwyd 2024-01-07.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).




Planedau yng Nghysawd yr Haul
 
Mercher
 
Gwener
 
Y Ddaear
 
Mawrth
 
Iau
 
Sadwrn
 
Wranws
 
Neifion