Deunydd daearegol a hefyd lain isradd yw muchudd. Nis ystyrir yn wir fwyn, ond yn hytrach yn fineraloid am fod iddo darddiad organig, gan ei fod yn deillio o bren sydd wedi newid dan wasgedd eithafol. Mae 'muchudd' yn ogystal yn anosddair yn golygu "du fel y muchudd", yn yr un modd y dywedir "jet-black" yn Saesneg.[1]

Muchudd
Mathmineraloid, glain organig, lignit Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sampl o fuchudd

Tarddiad golygu

Mae'r muchudd yn ffurfio o ganlyniad i bren a fraenodd filiynau o flynyddoedd yn ôl dan wasgedd uchel, yn aml pren o eiddo'r Araucariaceae. Ceir dwy ffurf ar fuchudd: caled a meddal. Canlyniad cywasgaid carbon a dŵr hallt yw muchudd caled; canlyniad cywasgaid carbon a dŵr croyw yw muchudd meddal.

Rhinweddau golygu

Mae muchudd yn carfio'n hawdd iawn, ond mae'n anodd ei gerfio â manylder heb ei dorri, a chan hynny cymer amser ac addysg briodol yn y grefft o'i gerfio er mwyn cerfio muchudd yn gelfydd.

Mae'r muchudd â chaledwch sy'n amrywio rhwng 2 a 4 yn ôl Graddfa Mohs a dwysedd cymharol rhwng 1.30 ac 1.14. Mae ganddo fynegrif plygiant o 1.66 yn union. Pan gyffyrddir muchudd â nodwydd poethgoch fe ryddha arogl tebyg i lo.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  muchudd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.
  2. Richard T. Liddicoat, Jr., Handbook of Gem Identification, 12fed arg. (Santa Monica: GIA Press, 1989), t.192