Mudiad Rhydychen
Mudiad o fewn Eglwys Loegr yn y 19g oedd Mudiad Rhydychen. Fe'i enwir felly oherwydd bod y rhan fwyaf o'i gefnogwyr gwreiddiol yn gysylltiedig â Phrifysgol Rhydychen. Roeddent o blaid adfer rhai traddodiadau Cristnogol hŷn yn litwrgi a diwinyddiaeth Anglicanaidd. Chwaraeodd y mudiad ran bwysig wrth lunio egwyddorion Anglo-Gatholigiaeth.
Coleg Keble, Rhydychen | |
Enghraifft o'r canlynol | mudiad crefyddol |
---|---|
Math | Anglo-Gatholigiaeth |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Cafodd y mudiad yr enw Tractariaeth hefyd, ar ôl ei gyfres o 90 o draethodynnau gan awduron amrywiol, Tracts for the Times, a gyhoeddwyd rhwng 1833 a 1841. Galwyd cefnogwyr y mudiad hefyd yn "Newmanites" (cyn 1845) a "Puseyites" (ar ôl 1845), ar ôl John Henry Newman (1801–1890) ac Edward Bouverie Pusey, dau o'r Dractariaid mwyaf blaenllaw. Roedd John Keble (1792–1866), yn gyfrannwr pwysig arall i'r gyfres. Enwyd Coleg Keble, Rhydychen, a sefydlwyd ym 1870, ar ôl John Keble.[1]
Erbyn y 1840au penderfynodd nifer o gefnogwyr y mudiad fod yr Eglwys Anglicanaidd y tu hwnt i'w hadfer, a throson nhw i'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Y mwyaf nodedig o'r rhain oedd Newman ym 1845. Cafodd y mudiad ddylanwad mawr ar Anglicaniaeth.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Samuel Wilberforce (1868). "The Resurrections of the Truth: A Sermon, preached in the Church of Saint Mary the Virgin, Oxford, on Saint Mark's Day, April 25, 1868, being the Day of Laying the First Stone of Keble College" (yn Saesneg).
- ↑ Walsh, Walter (1899). The Secret History of the Oxford Movement (yn Saesneg) (arg. 5th). London Church Association.
Llenyddiaeth
golygu- A. Tudno Williams, Mudiad Rhydychen a Chymru (Gwasg Gee, 1983)