John Henry Newman

Cardinal, diwinydd a bardd o Loegr oedd John Henry Newman (21 Chwefror 180111 Awst 1890). Roedd yn ffigwr pwysig a dadleuol yn hanes crefyddol Lloegr yn y 19g.

John Henry Newman
John Henry Newman by Sir John Everett Millais, 1st Bt.jpg
GanwydJohn Henry Newman Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1801 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1890 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Edgbaston Edit this on Wikidata
Man preswylEdgbaston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, bardd, offeiriad eglwysig, offeiriad Catholig, nofelydd, academydd, emynydd, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddcardinal Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Dydd gŵyl9 Hydref Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Ninas Llundain, yn fab i fancer. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, a daeth yn gymrodor o Goleg Oriel ym 1823. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr ym 1825.

Ym 1833 traddododd ei bregeth enwog "National Apostasy", yr oedd Newman yn ei hystyried yn ddechrau Mudiad Rhydychen, cylch o eglwyswyr a geisiodd adfer rhai traddodiadau Cristogol hŷn i'r Eglwys Anglicanaidd. Ar ôl dadlau chwerw yn Rhydychen ym 1842 ciliodd Newman a chriw o'i ddilynwyr i bentref cyfagos Littlemore, lle dilynon nhw ffordd o fwy lled fynachaidd.

Ar 8 Hydref 1845 fe'i derbyniwyd i'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Y flwyddyn ganlynol teithiodd i Rufain lle y'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig. Ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr ymgartrefodd yn y pen draw yn Edgbaston, Birmingham, lle bu'n byw am bron i ddeugain mlynedd. Sefydlodd Oratori Birmingham yn y faestref honno.

Ym 1879 fe'i gwnaethpwyd yn gardinal gan Pab Leo XIII. Fe'i canoneiddiwyd gan yr Eglwys Gatholig yn 2019.

LlenyddiaethGolygu

  • Tracts for the Times (1833–41)
  • (gydag eraill) Lyra Apostolica (cerddi, 1836)
  • Loss and Gain (nofel, 1848)
  • Lectures on the Present Position of Catholics in England (1851)
  • The Idea of a University (1852, 1858)
  • Callista (nofel, 1855)
  • Apologia Pro Vita Sua (hunangofiant crefyddol, 1864, 1865)
  • The Dream of Gerontius (cerdd epig, 1865)
  • An Essay in Aid of a Grammar of Assent (1870)