Mudiant
Mewn ffiseg, mae mudiant yn golygu newid cyson mewn lleoliad corff. Mae newid mewn lleoliad yn digwydd wrth i rym gael ei gymhwyso. Yn y 1660au roedd Isaac Newton yn gweithio ar y Tair Deddf Mudiant, a osododd y sylfeini i'r astudiaeth wyddonol fodern o'r ffenomen.
![]() mudiant harmonig syml | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | proses ffisegol, newid, symudiad ![]() |
Yn cynnwys | mudiant llinellol ![]() |
![]() |
Deddfau NewtonGolygu
Deddf GyntafGolygu
Mae grymoedd cytbwys yn golygu dim newid mewn mudiant. Cyn belled bod yna rymoedd cytbwys ar gorff fe fydd yn aros yn llonydd neu os yw'n symud yn barod fe fydd yn parhau i wneud hynny ar yr un buanedd a'r un cyfeiriad.
Ail DdeddfGolygu
Mae grym cydeffaith yn golygu grymoedd sydd yn anghytbwys. Fe fydd grymoedd anghytbwys yn creu newid yn lleoliad a chyflymder y corff. Gall y mudiant newid mewn pum ffordd:-
- Cychwyn
- Stopio
- Cyflymu
- Arafu
- Newid Cyfeiriad
Trydedd DdeddfGolygu
Os yw un gwrthrych neu gorff yn gweithredu ar wrthrych arall fe fydd yr ail wrthrych yn gweithredu yn ôl efo grym dirgroes hafal. Er enghraifft:
- Os bydd dyn yn gwthio yn erbyn mur, fe fydd y mur yn gwthio yn ôl arno gyda'r un grym. Ar yr un pryd, os yw'r dyn yn sefyll ar ongl i'r fertigol, mae'r dyn yn gwthio'r ddaear â grym cywasgiad a ffrithiant, a'r ddaear yn gwthio yn ôl ar y dyn gyda'r un grym. Os yw grym adwaith y mur ar y dyn a grym adwaith y ddaear ar y dyn yn gytbwys, fe saif y dyn yn llonydd.