Isaac Newton

Ffisegydd, mathemategwr, seryddwr, athronydd ac alcemydd Seisnig oedd Syr Isaac Newton (4 Ionawr 164331 Mawrth 1727). Mae'n enwog yn bennaf am ei waith ar ddeddfau opteg a disgyrchiant; yn ôl traddodiad, daeth Newton i ddeall effaith disgyrchiant pan syrthiodd afal oddi ar goeden a'i fwrw ar ei ben.

Isaac Newton
GodfreyKneller-IsaacNewton-1689.jpg
Ganwyd25 Rhagfyr 1642 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Woolsthorpe Manor, Woolsthorpe-by-Colsterworth Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1727 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, ffisegydd, athronydd, seryddwr, diwinydd, dyfeisiwr, alchemist, gwleidydd, polymath, academydd, awdur ffeithiol, ffisegydd damcaniaethol, cemegydd, diwinydd, astroleg Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Warden of the Mint, Meistr yr Arian, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, llywydd y Gymdeithas Frenhinol, Member of the 1689-90 Parliament, Aelod o Senedd 1701-02, Athro Lucasiaidd mewn Mathemateg Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amPhilosophiae Naturalis Principia Mathematica, Method of Fluxions, Opticks, or a Treatise of the Reflections, Refractions, Inflections and Colours of Light Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadRené Descartes Edit this on Wikidata
TadIsaac Newton Sr. Edit this on Wikidata
MamHannah Ayscough Edit this on Wikidata
PerthnasauCatherine Barton Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
Llofnod
Isaac Newton signature ws.svg

CefndirGolygu

Roedd Syr Isaac Newton yn ffisegydd, mathemategydd, alcemydd saesneg, dyfeisiwr ac athronydd naturiol Seisnig, sydd yn cael ei gofio gan lawer fel y gwyddonydd mwyaf dylanwadol erioed.

Ysgrifennodd Newton lyfr o’r enw Philosophiae Naturalis Principia Mathematica, lle disgrifiodd disgyrchiant a thair deddf mudiant. Dadleuodd bod golau wedi'i wneud o ronynnau, ac yn cynnwys sbectrwm o liwiau. Datblygodd reol oeri, yn disgrifio gradd disgyn tymheredd gwrthrychau pan rydych yn eu rhoi mewn aer.

BywgraffiadGolygu

Cafodd Syr Isaac Newton ei eni yn Woolsthorpe-by-Colsterworth a hynny'n gynamserol - a bu pawb yn disgwyl iddo farw. Bu farw ei dad, Isaac, dri mis cyn ei eni, ac aeth ei fam i fyw gyda’i gŵr newydd. Aeth Newton i fyw gyda’i famgu.

Pan oedd yn ddeuddeg aeth Newton i Ysgol y Brenin yn Grantham. Fe gafodd ei dynnu allan o'r ysgol a cheisiodd ei deulu ei wneud yn ffarmwr.

Yn 1661 ymunodd â Choleg y Drindod Caergrawnt, lle roedd ei ewythr William Ayscough. Ar y pryd, roedd dysg y coleg wedi ei sefydlu ar wersi Aristotle, ond roedd yn well gan Newton ddarllen syniadau gwyddonwyr mwy modern fel Galileo, Copernicws a Kepler. Yn 1665 datblygodd syniad mathemategol a fyddai'n datblygu i fod yn Calcwlws.

Caeodd y brifysgol yn 1665 i warchod pawb yn erbyn y Pla Du ac am y ddwy flynedd dilynol, gweithiodd Newton gartref ar ei theoremau am calcwlws, optegau a disgyrchiant.

Yn 1679 dychwelodd Newton i’w waith ar ddisgyrchiant a’i effaith ar y planedau. Argraffodd y canlyniad yn ei lyfr De Motu Corporum. Cafodd Philosophiae Naturalis Principia Mathematica ei argraffu ar 5 Gorffennaf 1687, efo cymorth Edmond Halley.

Tua diwedd ei oes, gweithiodd Newton ar y Beibl a’i athroniaeth. Urddwyd ef yn farchog gan y Frenhines Anne a chafodd ei wneud yn arlywydd y Royal Society. Bu farw Newton a chafodd ei gladdu yn abaty Westminster.

Deddfau Mudiant NewtonGolygu

  Prif erthygl: Deddfau Mudiant Newton
  1. Mae gwrthrych sydd yn llonydd yn aros yn llonydd, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym. Mae gwrthrych sydd yn symyd yn aros yn symyd, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym.
  2. Mae faint o rym yn hafal i faint o mas, wedi ei luosi gyda’r cyflymiad.
  3. Pan mae corff yn gwthio grym tuag at gorff arall, mae’r corff arall yn gwthio grym hafal yn ôl.

GolauGolygu

Isaac Newton oedd y person cyntaf i ddarganfod bod golau wedi ei greu allan o "liwiau'r enfys". Datblygodd, hefyd, y telesgop adlewyrchiant, sydd â drych yng nghanol y telesgop er mwyn adlewyrchu golau'r gwrthrych sydd yn cael ei astudio a'i adlewyrchu nôl yn un pelydryn. Mae'r pelydryn hwn, wedyn, yn adlewyrchu mewn drych arall sydd wedi ei osod ar 45 gradd c sy'nn galluogi'r pelydryn i droi 90 gradd: felly mae'n bosib gweld y gwrthrych yn disgleirio y tu fewn i'r telesgop.

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: