Mygltoniaid

(Ailgyfeiriad o Muggletoniaid)

Enwad Cristnogol bychan oedd y Mygltoniaid[1] neu'r Muggletoniaid.[2] Sefydlwyd ym 1651 gan ddau deiliwr a chefnder o Lundain, Lodowicke Muggleton a John Reeve, a honnant eu bod yn y proffwydi olaf a ragfynegir yn Natguddiad Ioan 11:3. Disgrifiai'r ddysgeidiaeth yn y cyhoeddiadau A Transcendent Spiritual Treatise upon Several Heavenly Doctrines (1652) a A Divine Looking-Glass (1656).[3]

Mygltoniaid
Enghraifft o'r canlynolChristian movement Edit this on Wikidata
Portread o Lodowicke Muggleton gan William Wood

Goroesodd y sect hyd yr 20g, ac mae'n debyg taw'r Mygltoniad olaf oedd Philip Noakes o Matfield, Caint, a fu farw ar 26 Chwefror 1979.[4]

Dyma'r disgrifiad collfarnol o'r Mygltoniaid a geir yn y gyfrol Crefyddau y Byd Cristionogaidd (tua 1868) gan y Parchedig J. E. Davies:[5]

Y dyhirod hyn oeddent ganlynwyr un Ludoric Muggleton, dilledydd wrth ei alwedigaeth, yr hwn gyda'i gydymaith Reeves, (o'r un gelfyddyd,) a ffugiasant eu hunain yn enwog broffwydi, yn amser Cromwell. Yr oeddent yn haeru mai hwy oedd y ddau dyst olaf y sonia am danyet yn Datguddiad Ioan, yr rhai oedd i ymddangos cyn penderfynawl ddinystr y bydysawd. Yr oeddynt yn cymeryd arnynt ryddâu, neu ddyfarnu y neb a fynent. Haerent nad oes yr un diafol y tu allan i ddyn : mai y diafol yw yr yspryd aflan o reswm, a melldigawl ddychymyg sydd yn y dyn ei hun : mai celwydd dybryd, a ffieidd-dra erchyll yn ngolwg yr Arglwydd oedd y weinidogaeth (efengylaidd) yn y byd hwn, pa un bynag ai prophwydawl ai gweinidogaethawl fyddai, er ei fod ef ei hun a'i gyfaill, yn haerllug haeru eu bod yn brophwydi. Yr oedd ganddynt amryw ddaliadau brwnt, ofer, ac annghyson eraill nad ydynt yn werth eu hadrodd yma.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Mygltoniad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2017.
  2. Geiriadur yr Academi, "Muggletonian".
  3. (Saesneg) Lodowick Muggleton. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2017.
  4. William Lamont, Last Witnesses: The Muggletonian History, 1652-1979 (2006). ISBN 0 7546 5532 6
  5. J. E. Davies, Crefyddau y Byd Cristionogaidd (Scranton, Pennsylvania: F. A. Crandall & Co., tua 1868), t. 76.