Hojatoleslam Sayyid Muqtada al-Sadr (hefyd Moqtada al-Sadr) (Arabeg: مقتدى الصدر Muqtadā al-Sadr) (g. 12 Awst, 1973) yw pedwerydd fab y clerigwr Iracaidd Shia, y Prif Ayatollah Mohammad Mohammad Sadeq al-Sadr a mab-yng-nghyfraith y Prif Ayatollah Mohammad Baqir As-Sadr. Mae'n un o'r ffigyrau pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Irac heddiw gyda milisia fawr dan ei reolaeth.

Muqtada al-Sadr
Ganwyd4 Awst 1974 Edit this on Wikidata
Najaf Edit this on Wikidata
Man preswylNajaf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIrac Edit this on Wikidata
Galwedigaethclerig Edit this on Wikidata
Swyddcommanding officer Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSadrist Movement Edit this on Wikidata
TadMohammad Sadeq al-Sadr Edit this on Wikidata
llofnod

O 2004 ymlaen mae wedi rheoli ardal Dinas Sadr yn Baghdad, prifddinas Irac, ac yn bennaeth Byddin y Mahdi, milisia Shia sy'n mwynhau cefnogaeth dactegol Iran, er nad yw dan ei rheolaeth o bell ffordd gan fod al-Sadr a'i gefnogwyr yn genedlaetholwyr Iracaidd.

Ar ôl sawl brwydr yn erbyn lluoedd yr Americanwyr a'u cyngheiriaid yn Irac (Ebrill, 2004) cafwyd cadoediad ym Mehefin 2004, gyda al-Sadr yn dweud y byddai'n sefyll i lawr ei filisia a chymryd rhan yn y broses wleidyddol. Bu sawl bygwth i arestio al-Sadr gan Awdurdod Dros Dro y Cynghreiriaid, gan gynnwys cyhoeddi warant yn ei erbyn yn Ebrill 2004 am ei gyfraniad honedig mewn llofruddiaeth ac am gyfnod roedd al-Sadr ar restr "lladd neu ddal" y fyddin Americanaidd. Ond newidiwyd y sefyllfa pan gyhoeddodd al-Sadr ei fwriad o sefyll yn etholiad 2005 yn y wlad.

Poethwyd y sefyllfa eto yn Awst 2004, fodd bynnag, a symudodd lluoedd yr Unol Daleithiau yn erbyn al-Sadr gyda'r bwriad o'i ladd. Ond methiant fu eu hymgyrch. Yn Hydref 2006, ymddangosodd al-Sadr yn gyhoeddus yng nghwmni arlywydd Irac, Jalal Talabani, gan godi dadleuon ynghylch ei ddylanwad tu ôl i'r llenni yn y llywodraeth newydd a gwylltio elfennau Sunni.

Ar 13 Chwefror, 2007, cyhoeddodd swyddogion Americanaidd fod al-Sadr wedi ffoi i Iran,[1]. Gwadodd llefarwyr ar ran al-Sadr hyn[2]. Gwadu'r adroddiad wnaeth Gweinidog Tramor Iran hefyd[3].

Mae lleoliad Al-Sadr ar hyn o bryd yn ansicr. Ar 30 Mawrth, adroddwyd fod Sadr, trwy gyfrwng clerigwyr Shia yn siarad ar ei ran, "wedi rhoi araith danbaid ... yn condemnio presenoldeb yr Americanwyr yn Irac ... ac yn galw am brotest mawr yn erbyn y goresgyniad ar April 9...." [4]. Roedd hyn yn arwyddocaol am fod al-Sadr wedi galw ar ei filisia i gadw eu pennau i lawr yn ystod y cyrch Americanaidd newydd yn Baghdad (a ddechreuodd ar 14 Chwefror, 2007), "er mwyn peidio profocio brwydro agored â'r Americanwyr." [4]

Ar 8 Ebrill erfynodd al-Sadr ar fyddin Iraq a'r heddlu i beidio cydweithredu â'r Unol Daleithiau a gorchmynodd ei ryfelwyr i ganolbwyntio ar wthio'r milwyr Americanaidd allan o'r wlad. Cafodd y cyhoeddiad ei dosbarthu yn ninas sanctaidd Najaf ar yr un diwrnod, diwrnod yn unig cyn protest mawr gyda degau o filoedd yn cymryd rhan yno, a alwyd gan al-Sadr, i nodi pedwar blwyddyn er cwymp Baghdad i'r Americanwyr, a ddisgrifir yn y cyhoeddiad fel "arch-elynion" pobl Irac.

Ar 15 Ebrill cyhoeddwyd fod bloc aelodau seneddol Muqtada al-Sadr yn tynnu allan o lywodraeth Irac er mwyn rhoi pwysau ychwanegol ar yr Unol Daleithiau i dynnu ei 140,000 o filwyr allan o'r wlad. Mae Bloc Sadr yn dal chwech gweinidogaeth a chwarter y seddi seneddol yng Nghyngrair Shia y prif weinidog Nouri al-Maliki. Cadarnheuwyd y symudiad ar 16 Ebrill. Er nad yw hyn yn debyg o ddymchwel y llywodraeth bydd yn creu anhawsterau mawr iddi gan ei bod eisoes yn rhanedig iawn. Datganodd llefarydd ar ran y bloc, "Rydym yn cyhoeddi ein bod yn tynnu allan o'r llywodraeth am nad yw'r prif weinidog eisiau paratoi amserlen am dynnu allan y lluoedd estron o Irac."[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. [1] Washington Post
  2. [2][dolen farw] Abc
  3. [3] Archifwyd 2008-03-22 yn y Peiriant Wayback ISNA
  4. 4.0 4.1 [4], 2007-03-30
  5. [5] Reuters, 15.04.07