Mwsoglu (cymh. calcio, S. caulking) yw'r hen arferiad o wasgu mwsog i mewn i dyllau mewn waliau carreg bythynod rhag oerfel y gaeaf.[1] Gelwid y person a oedd yn mwsoglu yn 'fwsoglwr'.

Mwsoglu

Mae gan y bardd Gwallter Mechain gerdd am ferch yn 'mwsygla' a brwyna ar fryn ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn y Berwyn, a gyfansoddwyd yn Chwefror 1839. Dyma'r bennill agoriadol:

Morwynig yw Marianna
Bob munud yn ddiwyd da;
Dringai, rhedai, cyn yr ha',
I uchel ben Moel Facha
I fwsygla'r fyw siglen
A brwyna holl Berwyn hen.[2]

Y prif fwsogl sy'n tyfu mewn "siglen" (cors sy'n siglo, neu "donnen") fyddai migwyn (Sphagnum). Soniwyd am fwsogl arbennig a ddefnyddid i galcio simneoedd rhag tân tair canrif yn ôl yn Sweden. Dyma hanes debyg gan Hugh Evans, am fwsoglu, yn ei gyfrol enwog Cwm Eithin (1931):

"Yr oedd llawer o'r hen dai wedi eu hadeiladu heb forter – tyllau yn y muriau, a'r to heb ei [deirio (gwirio hwn)] , os llechau a fyddai, ac felly yn oerion iawn."
'"Anfonid am y mwsoglwr cyn dechrau'r gaeaf. Âi yntau i'r mynydd i hel mwswg, lle y cai beth hir a gwydn; ac yna gyda darnau bychain o haearn tebyg i gynion ac o wahanol dewdwr, gwthiai'r mwsogl i'r tyllau gan ei guro'n galed gyda gordd fechan, yn union fel y gwneir bwrdd llong gyda charth."
"Os nad wyf yn camgofio, yn y Mynydd Main y dywedai Thomas Jones, Llidiart y Gwartheg, yr oedd y mwsoglau gorau i'w gael at y gwaith."

A dyma ddywedodd Evan Jones (1850-1928):

"Yn yr hen amser roedd llawer o dai gwlad wedi eu toi â llechi tewion a didriniaeth iawn o'u cymharu a llechi yr oes hon, ac yr oeddynt mor arw fel yr oedd yn angenrheidiol i ddodi mwswm [mwsogl] yn ofalus yng nghysylltiadau'r llechi oll. Y prif amcan trwy hyn oedd sicrhau cerrig y to rhag y storm a gwneud yr adeilad yn fwy cysurus. Gwnaed y gwaith o fwysyny fel rheol yn yr hydref er i'r to fod yn ddiddos a diogel erbyn gerwinder y gaeaf."
"Yr oedd ym meddiant y mwysynwr fach bychan at y gorchwyl o dynnu mwswm.... Math arall oedd fachau llai, tebyg i grafanc ceiliog i'w ddefnyddio mewn llaw. Gwelir ar rai hen lyfrau vestries gofnodion am swm o arian wedi ei dalu i faswniaid am fwsynu toion eglwysi'r wlad."[3]

Gall Hugh Evans yn hawdd fod yn disgrifio Fontinalis antipyretica, a ddefnyddid yn Sweden yn oes Linnaeus i berwyl tebyg, sef mwsoglu simneau rhag tân (fontinalis: perthyn i ffynnon; antipyretica: yn erbyn tân)[4] ond nid yw'n byw yn arbennig yn y mynydd. Dyma gynigiodd Tristan Hatton-Ellis, arbenigwr bywyd dŵr croyw gyda’r Cyngor Cefn Gwlad[5]:

It's possible that no other moss could suffice. In rivers, Fontinalis antipyretica can reach lengths of 1m or so. This and the fact that it is very common means that it would have been the right sort of material and potentially available in large amounts.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cwm Eithin, gan Hugh Evans, (tudalen 102), Gwasg y Brython, 1931.
  2. Gwallter Mechain, Gwaith Gwallter Mechain, gol. D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1868), cyfrol 1, tud. 187.
  3. Cymru Evan Jones - detholiad o bapurau Evan Jones Ty'n Pant, Llanwrtyd, gol. Herbert Hughes (Gomer 2009)
  4. Bwletin Llên Natur (Rhifyn 18)
  5. Bwletin Llên Natur rhifyn 50