Llanrhaeadr-ym-Mochnant

pentref a chymuned ym Mhowys

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant.[1] Fe'i lleolir ym mhen mwyaf gogleddol y sir tua 9 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt a 12 milltir i'r de o Langollen. Mae'r lôn B4580 yn mynd trwy'r pentref.

Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,195, 1,197 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd7,452.42 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.83°N 3.3°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000318 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ123262 Edit this on Wikidata
Cod postSY10 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUSteve Witherden (Llafur)
Map

Fe'i gelwir yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant oherwydd y bu'n rhan o hen gantref (neu gwmwd; yr oes adroddiadau gwahanol) Mochnant yn yr Oesoedd Canol.

Mae'r pentref yn sefyll wrth droedfryniau cyntaf Y Berwyn ar lan afon Rhaeadr. Ym mhen uchaf y cwm ceir Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru yn yr hen rigwm. Un filltir i'r gogledd o Lanrhaeadr mae bryn Moel Hen-fache (515m).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]

Adeiladau a hynafiaethau

golygu

Ceir Capel Seion yn y pentref. Ailadeiladwyd y capel Methodistiaid hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y mudiad pensaernïol Arts and Crafts.

Pobl o Lanrhaeadr-ym-Mochnant

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant (pob oed) (1,195)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) (497)
  
42.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) (435)
  
36.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanrhaeadr-ym-Mochnant) (161)
  
30.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.