Mwynfeydd Copr y Gogarth

Y Gogarth yw'r enw a ddefnyddir gan rai ond honnir mai Mynydd Llandudno yw'r hen enw cywir. Enwau erail yw Y Gogarth Fawr, Pen y Gogarth, Cyngreawdwr, Pen y Gwylfryn ac Yr Orm. Safle mwyngloddio copr a leolir ar Ben y Gogarth ac sy'n dyddio i'r Oes Efydd yw Mwynfeydd Copr y Gogarth. Mwyngloddiwyd hefyd rhwng 1692 O.C. ac 1881 O.C. pan gariwyd miloedd o dunelli o wastraff mwyngloddio allan o'r gloddfa a'i daflu dros wyneb y safle, gan guddio'n llwyr geg y twneli. Yn 1987 ailagorwyd y siafftau, y twneli a'r siambrau isod. Dyna'r pryd y sylweddolwyd oed a phwysigrwydd y mwynfeydd.

Golygfa o'r Gloddfa gan gynnwys y bont dros Siafft Vivian
Golygfa o'r Gogarth

Ym mis Ebrill 1991 agorwyd safle Mwynfeydd Copr y Gogarth i'r cyhoedd, gan roi cyfle i ymwelwyr weld drostynt eu hunain un o'r darganfyddiadau archeolegol mwyaf arwyddocaol yn ddiweddar. Adeiladwyd llwybrau a llwyfannau gwylio i roi mynediad i'r cloddiadau wyneb. Yn 1996 codwyd pont dros ben Siafft Vivian. Mae estyniad y ganolfan ymwelwyr, a adeiladwyd yn 2014, yn cynnwys detholiad o offer mwyngloddio ac echel efydd ynghyd ag arddangosfeydd am fywyd a marwolaeth yn yr Oes Efydd, mwyngloddio a meteleg hynafol. Mae ffilm ragarweiniol gyda lluniau gwreiddiol o'r cloddiadau yn esbonio darganfyddiad y pwll.

Daeareg

golygu

I ddeall y rhesymau pam fod pobl yr Oes Efydd wedi mwyngloddio ar y Gogarth, byddai'n fuddiol inni ddeall ychydig am ei gyflwr daearegol a'i gwnaeth mor ddeniadol iddynt.

Yn ystod y cyfnod a elwir yr Oes Garbonifferaidd gan ddaearegwyr, tua 340 i 280 o filiynau o flynyddoedd yn ôl, roedd Gogledd Cymru, fel llawer rhan arall o Brydain, yn gorwedd dan fôr bas, trofannol a'r amodau'n gyffelyb i Bermiwda neu Fflorida heddiw. Setlodd sgerbydau plancton a chregyn hyd waelod y môr a dan symudiad y tonnau chwalwyd hwy'n ronynnau mân. Mae sgerbydau a chregyn bron i gyd yn galch, felly gyda threigl miliynau o flynyddoedd, crynhodd gwelyau trwchus o galch ar waelod y môr, gan galedu a throi'n garreg galch.

 
Dangos trefn y gwahanol gyfnodau yn cynnwys yr Oes Efydd

Beth amser ar ôl hyn, mwyaf tebyg rhwng 250 a 200 miliwn o flynyddoedd ôl, rhoddwyd pwysau enfawr ar y garreg galch gan symudiad y ddaear, ac achoswyd iddi gracio. Digon bach oedd rhai o'r craciau hyn ond buasai eraill ohonynt yn cyrraedd yn ddwfn i gramen y ddaear. O fewn cramen y ddaear ceid pocedi berwedig o hylif poeth, hylifau a nwyon sydd o dan bwysau anferthol. Byddai'r rhain yn ymwthio tua'r wyneb drwy'r craciau, ac with wneud hynny yn toddi rhannau o'r garreg galch o gwmpas y craciau gan frurfio tyllau gwag. Llenwid y gwagleoedd â mineralau, sef mineralau copr yn yr achos hwn, gan oeri a chaledu i frurfio gwythiennau o fwynau copr. Yn ystod y cyfnod hwn buasai'r garreg galch o gwmpas y gwythiennau wedi adweithio'n gemegol. Byddai peth o'r calch yn y garreg wedi'i gyfnewid â magnesiwm, a ffurfio carreg galch fagnesiwm neu Dolomit.

Byddai'r Dolomit hwn ychydig yn feddalach na'r garreg galch ac wrth gyfuno hynny â'r ffaith fod y mwynau copr yn weladwy ar yr wyneb, roedd yr amodau'n ffafriol ar gyfer y cloddwyr cynnar.[angen ffynhonnell]

Bywyd yn ystod yr Oes Efydd

golygu
 
Ystafell yr Arddangosfa
 
Theatr ble dangosir ffilm o'r Gloddfa

Mae hanes diddorol bywyd yn ystod yr Oes Efydd i'w weld yn yr ystafell arddangos ac yn ddwyieithog. Hefyd, gallwch weld ffilm o hanes y mwynfeydd yn y theatr sydd â seddi o hen gapel.

Ddoe a Heddiw

golygu

Cyferbyniad. Sut edrychiad oedd 4000 o flynyddoedd yn ôl o'i gymharu â heddiw.

 
Yr olygfa 4000 o flynyddedd yn ôl
 
Yr olygfa yn 2019

Gosod Dyddiad i’r Twneli

golygu
 
Un o'r twneli ar lwybr yr ymwelwyr

Edrychiad twneli'r Gogarth sydd yn rhoi'r syniad cyntaf o'u hoedran. Mae'r twneli hynny sy'n dyddio'n ôl i'r ddwy ganrif ddiwethaf yn fwy onglog fel arfer, ac yn dangos arwyddion o dyllau a domvyd ar gyfer ffrwydro, tra bo twneli'r Oes Efydd yn fwy afreolaidd a'r waliau'n esmwyth a chrwn, o ganlyniad i'r ffaith fod y cloddwyr cynnar yn tynnu cyn lleied a phosibl allan o'r graig gyda'u harfau cyntefig. Arwydd arall o waith cynnar yw offer o garreg ac asgwrn. Nid yw edrychiad y twneli'n unig yn ddigonol i brofi eu hoedran, ac er mwyn cael ei dderbyn, rhaid mabwysiadu dull gwyddonol o'u dyddio. Arferai cloddwyr yr Oes Efydd gynnau tân dan ddaear i wanychu'r graig a defhyddient esgyrn anifeiliaid fel offer. Heddiw, gall archeolegwyr gasglu enghreifftiau o ludw golosg o weddillion y tanau, neu esgyrn, a gellir eu dyddio drwy broses a elwir yn ddyddio Carbon 14.

Ail-ddarganfod y Gloddfa

golygu
 
Taith yr ymwelydd

Er mai cyfnod pwysicaf mwyngloddio oedd yn ystod yr Oes Efydd, digwyddai hefyd rhwng 1692 O.C. ac 1881 O.C. Yn ystod y cyfnod hwn cariwyd miloedd o dunelli o wastraff mwyngloddio allan o'r gloddfa a'i daflu dros wyneb y safle, gan guddio'n llwyr geg y twneli ac arwynebedd y graig. Ar ôl darfod cloddio, cuddiwyd y siafftau, rhai hyd at 500 troedfedd o drwch, â phren ac a rwbel er mwyn diogelwch.

Dros gan mlynedd yn ddiweddarach, yn 1987, penderfynodd y cyngor lleol dirlunio cyffiniau'r gloddfa a chodi maes parcio ar ei ben. Cyn y gallent wneud hyn beth bynnag, roedd yn angenrheidiol iddynt sicrhau fod y gloddfa isod yn ddigon diogel i gynnal y maes parcio. Felly, gofynnodd y Cyngor i gwmni cloddio lleol o'r enw "Ashton Mining" agor y siafftau llawn ac archwilio'r twneli a'r siambrau isod. Dyna'r pryd y sylweddolwyd oed a phwysigrwydd y cloddfeydd.

Treuliodd Tony Hammond, perchennog "Ashton Mining", y ddwy flynedd ganlynol ar astudiaethau tebygolrwydd a threfnu lês ar y tir amgylchynol, ac yn Ebrill 1990, gyda'i wraig Anne, a dau gyd-weithiwr, Andy Lewis ac Edric Roberts, sefydlodd "Great Orme Mines Ltd.", i gloddio'r safle a'i agor i'r cyhoedd. Ar ôl blwyddyn o weithio llawn-amser ar y safle, agorwyd Cloddfa'r Gogarth i'r cyhoedd ar y 23ain Ebrill, 1991.

Llwybr yr Ymwelwyr

golygu

Agorwyd un rhan o'r gloddfa i'r cyhoedd gan roi cyfle i bobl weld drostynt eu hunain gyfran fechan o'r anferth rwydwaith danddaearol sydd yma. Dilynir pedair o'r 35 o wythiennau mwynol, llawer ohonynt yn dyddio'n ôl 3,400 - 3,500 o flynyddoedd. Er bod y twneli y cerddwch drwyddynt yn ddigon uchel i allu sefyll ynddynt mae rhai eraill gerllaw yn fychan iawn, rhai'n ddim ond 9 modfedd o lêd, ac 11 modfedd o uchder. Credir mai plant mor ifanc a 5 neu 6 mlwydd oed a'u cloddiodd. Cyrhaedda'r twneli bwynt lle y gellwch weld ceudwll anferthol o'r Oes Efydd.

Ceudwll vr Oes Efydd

golygu
 
Y Ceudwll o'r Oes Efydd

Yn 1987 y darganfuwyd y Ceudwll i gychwyn a chredid ei fod yn perthyn i'r 19 ganrif. Yna ar ôl ei archwilio am 5 mlynedd, gallwyd profi'i fod dros 3,500 o flynyddoedd oed. O ran mesur mae tua 40 troedfedd o uchder, 70 troedfedd o lêd a 45 troedfedd o ddyfnder. Cafwyd hyd i amryw o esgyrn anifeiliaid yn y Ceudwll, ynghyd â dau asgwrn o bont ysgwydd dynol. Arddangosir yr esgyrn dynol hyn yn ogystal ag asgwrn o geg ddynol, a gafwyd oddi ar wyneb y safle, yn y ganolfan i ymwelwyr.

Cloddio'n Archeolegol

golygu

Yn ystod gaeaf 1990/91 cliriwyd dros 100,000 o dunelli o rwbel a gwastraff o'r safle, gan ddatgelu'r rhes uchaf o fynedfeydd. Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o'r clirio dechreuol ar rwbel y 18 a'r 19 Ganrif gan dyrchwyr mecanyddol, mawr, ond fel y daethpwyd yn nes at y mynedfeydd ac wyneb y graig, gwnaed y gwaith clirio â llaw. Mae arfau asgwrn a charreg yn dal i fod yn gymysg â'r rwbel oedd agosaf at y graig, llawer ohonynt heb eu cyffwrdd ers yr Oes Efydd, a chymer yr archeolegwyr ofal mawr i beidio a'u niweidio. Pan welir offer newydd yn y rwbel, cofnodir yr union fan, a thynnir llun y bwyelli carreg â chamera yn y fan a'r lle. Glanheir pob darganfyddiad yn drwyadl a rhoddir rhif arno. Cofnodir hyn wedyn i gofio'r union safle ac unrhyw beth arall o ddiddordeb, yn y dyddiadur a'r ffeiliau a berthyn i'r gloddfa.

Offer Cerrig

golygu
 
Arddangosfa o Gerrig Morthwyl

Roedd gan y mwynwyr o'r Oes Efydd amrywiaeth o offer a dulliau ar gael i mwyngloddio a phrosesu'r mwyn. Ers i gloddfeydd archeolegol Mwyngloddiau'r Gogarth ddechrau yn 1987, mae dros 2,500 o gerrig morthwyl wedi cael eu darganfod. Mae'r ffotograff hwn yn dangos detholiad o'r rhai sy'n cael eu harddangos ym Mwyngloddiau'r Gogarth. Byddai'r cerrig hyn wedi'u dewis yn ofalus am eu maint, siâp a math y graig. Mae'r tywodfaen mwyaf a ganfuwyd hyd yma yn pwyso 30 kg ac yn debygol o fod wedi ei atal mewn ffrâm bren gan ei fod yn rhy drwm i'w ddefnyddio â llaw.

Mwyndoddi Copr

golygu

Cynhaliwyd arddangosfa o fwyndoddi copr gan James Dilley o 'Ancient Craft'ar y 24ain o Fehefin, 2019.

Cael cyflenwad digonol o ddŵr

golygu
 
Map yn dangos lleoliadau Ffynhonnau'r Gogarth ac atyniadau

Roedd cael cyflenwad digonol o ddŵr yn bwysig iawn i olchi'r gopr ar y Gogarth. Mae nifer o ffynhonnau yno ac mae'r map yn dangos lleoliad tair ar ddeg ohonynt. Hyd y gwyddys, roedd Ffynnon Galchog yn bwysig iawn ar gyfer y gwaith ac mae olion gerllaw yn profi hynny. Dywed rhai bod llongau yn gallu hwylio at safle'r capel bryd hynny. Hefyd, Ffynnon Gogarth, Ffynnon Odyn a Ffynnon Ty'n Pwll, ble mae Eglwys Seilo heddiw. Hefyd, gallwch weld hanes yr holl ffynhonnau yma. Mae'r map hefyd yn dangos lleoliad y Mwynfeydd Copr ac atyniadau eraill i ymwelwyr.

Amryfal Ddefnydd o Gopr

golygu

Metel gweddol feddal yw copr ar ei ben ei hun. Bu'n ddefnyddiol ar gyfer addurno ond ni allai fod o fudd fel offeryn neu arf. Ond os cymysgir tua 90% o gopr gyda 10% o dun, ffurfir cyfuniad o'r enw Efydd. Roedd y metel caletach hwn mor bwysig i'r hen bobl nes rhoi ei enw'n deitl ar gyfnod o ddwy fil o flynyddoedd, yr Oes Efydd. Y lie agosaf i'r Gogarth y gallesid bod wedi cael y tun yw Cernyw-, ôl a blaen, o 500 milltir. Gwneid gwahanol bethau allan o Efydd. Defnyddid ef yn arferol i addurno ond ei ddefnydd pennaf oedd ar gyfer gwneud offer ac arfau. Bwyelli yw'r nwyddau mwyaf cyffredin a ddarganfuwyd o'r cyfnod hwnnw. Oherwydd yr anawsterau o fwyngloddio copr, a'r anawsterau o gael tun, buasai Efydd yn nwydd gwerthfawr tu hwnt, ac mae'n annhebyg y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn berchen arno. Mae'n debyg yr edrychid ar rywbeth a wnaed o Efydd fel arwydd o statws uchel person.

Copr y Gogarth fel eicon

golygu
 
Angela Evans gyda'r goron orffenedig
 
Y Goron

Caeodd y Gloddfa Gopr olaf ar Ben y Gogarth, Llandudno, sef ‘Yr Hen Waith’ (Old Mine) yn 1881, ond roedd y diwydiant wedi crebachu ymhell cyn hynny. Roedd un o’r prosiectau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn awyddus i gynnwys copr o’r Gogarth. Drwy garedigrwydd Mwynfeydd Copr y Gogarth ac un o’u cyfarwyddwyr, Edric Roberts, llwyddwyd i gael ciwb 2 centimedr oedd ei angen ar gyfer y prosiect. Angela Evans o Gaernarfon fu'n gyfrifol am lunio'r goron, gyda Grŵp Cynefin yn noddi, ac fe welir peli bychan o gopr yn y gwaith.
Sut aed ati? Rhostiwyd y malachit i gael gwared o rai amhureddau. Yna, rhostiwyd o sawl tro ar wres uwch er mwyn cael copr purach cyn ei gastio i fowld o glai. Yna, wedi ei gael i siâp, ei lanhau a’i sgleinio. I orffen, paentiwyd â lacr er mwyn iddo gadw’r lliw llachar.


Cromlech Llety'r Filiast sy'n rhoi tystiolaeth bellach bod pobl yn byw ar y Gogarth yn ystod yr Oes Efydd'.
Dau lun o'r siop sy'n dangos eu bod yn gwerthu pob math o nwyddau ac anrhegion.
Tri fu'n ymwneud â llunio'r hanes yma. Edric Roberts, un o gyfarwyddwyr y Gloddfa, Tom Parry sy'n arbenigwr ar hanes Y Gogarth, a Gareth Pritchard fu'n gyfrifol am gasglu'r cyfan.

Gwybodaeth

golygu

Tynnwyd yn helaeth o lyfryn 'Dewch i Weld Cloddfeydd Hynafol y Gogarth' a gyhoeddwyd gan 'Great Orme Mines'. Cyhoeddwyd rhannau o'r erthygl gan Gareth Pritchard yn 'Y Pentan', papur Bro Dyffryn Conwy a'r Glannau. Cydnabyddir cymorth Edric Roberts o'r Gloddfa a Tom Parry, arbenigwr ar hanes Y Gogarth.

Cyfeiriadau

golygu