Llety'r Filiast
Mae Llety'r Filiast yn gromlech a elwir yn garnedd gellog, sef gweddillion siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig, sydd wedi'i lleoli ar y Gogarth ger Llandudno yn Sir Conwy; cyfeiriad grid SH772829. [1]
![]() | |
Math | carnedd gellog, cromlech ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.329085°N 3.845127°W ![]() |
![]() | |
- Gofal! Ceir cromlech arall o'r un enw a elwir hefyd yn Maen y Bardd, yn yr un sir
Archaeoleg golygu
Gelwir y math hwn o siambr yn 'garnedd gellog hir' ac fe'i cofrestrwyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CN005.
Defnyddiwyd yr heneb hon i gladdu'r meirw. Saif tua hanner ffordd i fyny'r Gogarth mewn llecyn o'r enw Maes-y-Fachrell.[2] Ceir olion siambr bumochrog ar y safle. Mae pedwar o'r meini sy'n cynnal maen clo'r siambr yn sefyll o hyd ond mae darn o'r maen clo wedi torri'n rhydd. Dros y blynyddoedd cymerwyd llawer o ddeunydd y siambr a dim ond "sgerbwd" y siambr wreiddiol sy'n weddill erbyn hyn.[3] Ceir mwynglawdd copr neolithig gerllaw a fu'n un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Llên gwerin golygu
Mae Llety'r Filiast yn enw amgen am gromlech Maen y Bardd, ger Rowen yn yr un sir. Mae'r enw'n tarddu o lên gwerin, ond does dim chwedl gysylltiedig â'r heneb hon wedi goroesi. Mae enwau cromlechi eraill sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur. [4] Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, 1947), tud. 7.
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 60.
- ↑ T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, ail arg. 1979), tud. 93.