Myfyrdod Bwdhaidd
Modd o fyfyrdod crefyddol a ddefnyddir ym Mwdhaeth i geisio cyrraedd rhyddid ysbrydol nirfana yw myfyrdod Bwdhaidd. Gelwir y gwrthrych sylw yn kammatthana.
Ceir pedwar cam (Sansgrit: dhyana, Pali: jhana) sy'n nodi'r daith o sylw'r unigolyn o'r byd synhwyraidd allanol i'r cyflwr o fewndroad:
- Datgysylltiad o'r byd allanol ac ymwybyddiaeth o lawenydd a thawelwch meddwl.
- Astudrwydd, gan ffrwyno ymresymiad ac archwiliad.
- Cael gwared â llawenydd, gan adael meddwl tawel.
- Cael gwared â'r meddwl tawel hefyd, gan hebrwng cyflwr o wastadrwydd meddwl ac hunanfeddiant pur.
Dilynir y pedwar cam hyn gan bedwar ymarfer ysbrydol, y samapatti:
- Ymwybyddiaeth o anfeidroldeb gofod.
- Ymwybyddiaeth o anfeidroldeb gwybyddiaeth.
- Myfyrio ar afrealrwydd pethau (diddymder).
- Ymwybyddiaeth o afrealrwydd fel gwrthrych meddwl.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Buddhist meditation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.