Mynachlog Santes Catrin

Mynachlog ar orynys Sinai yn yr Aifft yw Mynachlog Santes Catrin (Groeg: Μονὴ τῆς Ἁγίας Αἰκατερίνης). Saif ger llethrau isaf Mynydd Sinai. Dymodwyd y fynachlog, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Groeg, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ystyrir mai Mynachlog Santes Catrin yw'r fynachlog Gristnogol hynaf yn y byd.

Mynachlog Santes Catrin
Mathmynachlog Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCatrin o Alecsandria Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 548 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSaint Catherine Area Edit this on Wikidata
LleoliadSaint Catherine Edit this on Wikidata
SirSouth Sinai Governorate Edit this on Wikidata
GwladYr Aifft Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,570 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.555831°N 33.975561°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganIwstinian I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iCatrin o Alecsandria Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadEglwysi Uniongred Edit this on Wikidata
EsgobaethArchdiocese of Sinai, Pharan, and Raitho Edit this on Wikidata

Ceir cofnod am fynachod yma gan bererin o'r enw Egeria tua 381-384. Adeiladwyd y fynachlog gan yr ymerawdwr Justinian I (teyrnasodd 527-565), o amgylch Capel y Berth yn Llosgi. Roedd y capel hwn wedi ei adeiladu gan Helena, mam yr ymerawdwr Cystennin I, ar y safle lle dywedir i Moses weld y berth yn llosgi. Cafodd y fynachlog ei henw oddi wrth Santes Catrin o Alecsandria. Wedi iddi gaeth ei merthyru, roedd traddodiad i angylion gario ei chorff i'r safle yma.

Ceir casgliad ail-fwyaf y byd o lawysgrifau cynnar yma, a nifer fawr o weithiau celf, yn cynnwys casgliad gorau'r byd o eiconau cynnar.

Oriel luniau

golygu