Mynydd Barker
Mae Mynydd Barker yn dref yn Ne Awstralia, 33 cilomedr o Adelaide ym Mryniau Adelaide. Poblogaeth y dref yw 14,452.[1]
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 13,842, 18,330 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 322 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 35.0667°S 138.85°E ![]() |
Cod post | 5251 ![]() |
![]() | |
Enwyd y dref ar ôl bryn cyfagos a enwyd ar ôl Capten Collet Barker[2], fforiwr ac aelod o'r fyddin Brydeinig.
Gwerthwyd tir da amaethyddol yn yr ardal gan Lywodraeth De Awstralia yn 1838[3] ac adeiladwyd melin ŷd i brosesu cynnyrch yr ardal.
Adeiladwyd rheilffordd o Gyffordd Mynydd Barker i Fynydd Barker ac agorwyd gorsaf reilffordd Mynydd Barker ar 27 Tachwedd 1883. Estynwyd y lein i Strathalbyn ar 15 Medi 1884, ac yn y pen draw i Goolwa a Victor Harbor. Caewyd y lein ym 1989, ond erbyn hyn mae Rheilffordd dreftadaeth Steamranger yn cynnal gwasanaethau stêm ar y lein.[4]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cyfrifiad 2011: Mynydd Barker 16 Chwefror 2014.
- ↑ Gwefan bryniau adelaide
- ↑ Gwefan rootsweb
- ↑ Gwefan Stemranger