Mynydd Herschel
Mynydd 3335m o uchder yn yr Antarctig yw Mynydd Herschel. Saif 2.6 km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fynydd Peacock ger pen Rhewlif Ironside, ym Mynyddoedd Admiralty, un o is-gadwyni'r Mynyddoedd Trawsantarctig, yn Nhir Victoria, yr Antarctig.
Mynydd Herschel Mynyddoedd Admiralty | |
---|---|
Llun | Mynydd Herschel |
Uchder | 3,335m |
Lleoliad | Yr Antarctig |
Gwlad | Mynyddoedd Admiralty |
Darganfuwyd y mynydd yn 1841 gan Syr James Clark Ross, a'i enwodd ar ôl y seryddwr enwog Syr John F. W. Herschel, mab Syr William Herschel.