William Herschel
Seryddwr oedd Syr William Herschel (15 Tachwedd 1738 - 25 Awst 1822). Efallai'n seryddwr enwocaf y 18g, darganfu Syr William Herschel y blaned Wranws, nifer o loerennau, llawer o niwloedd sêr newydd, clystyrau sêr a sêr deuol. Roedd hefyd yr unigolyn cyntaf i ddisgrifio'n gywir ffurf ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog, yn ogystal â darganfodd ymbelydredd isgoch o'r haul. Roedd yn enedigol o Hannover yn yr Almaen; roedd ei chwaer, Caroline Herschel, yn seryddwr o fri hefyd.
William Herschel | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Friedrich Wilhelm Herschel ![]() 15 Tachwedd 1738 ![]() Hannover ![]() |
Bu farw |
15 Awst 1822, 21 Awst 1822, 23 Awst 1822, 25 Awst 1822 ![]() Slough ![]() |
Man preswyl |
Lloegr, Caerfaddon, Datchet, Old Windsor, Observatory House ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Almaen, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr ![]() |
Addysg |
Doethur mewn Cyfraith, gradd er anrhydedd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
seryddwr, cyfansoddwr, chwaraewr obo, cerddor, ffisegydd ![]() |
Swydd |
President of the Royal Astronomical Society ![]() |
Tad |
Isaac Herschel ![]() |
Mam |
Anna Ilse Moritzen ![]() |
Priod |
Mary Baldwin ![]() |
Plant |
John Frederick William Herschel ![]() |
Gwobr/au |
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America, Royal Guelphic Order ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Roedd ei fab, Syr John Herschel, yntau'n seryddwr nodedig; enwir Mynydd Herschel yn yr Antarctig ar ei ôl, yn ogystal â chrater ar y lloeren Mimas, un o'r lloerennau mwyaf i gylchu'r blaned Sadwrn.