Mynyddoedd yr Wral

Mynyddoedd sy'n ffurfio cadwyn o'r de i'r gogledd yng ngorllewin Rwsia yw Mynyddoedd yr Wral (Rwseg: Ура́льские го́ры, Uralskiye gory). Ystyrir fel rheol mai hwy sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ewrop ac Asia. Mae 68% o'r gadwyn y Rwsia a 32% yn Casachstan. Enwir Talaith Wral ar eu hôl.

Mynyddoedd yr Wral
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,895 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60°N 59°E Edit this on Wikidata
Hyd2,500 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolPaleosöig, Carbonifferaidd Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ger pentref Saranpaoel yn Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi ym Mynyddoedd yr Wral

Mae'r Wral yn ymestyn am 2,498 km o'r paith ger ffîn ogleddol Casacstan hyd arfordit gogleddol Rwsia, ar Cefnfor yr Arctig, ac yn ymestyn ymhellach i'r gogledd i ffurfio ynysoedd Ynys Vaygach a Novaya Zemlya. Y copa uchaf yw Mynydd Narodnaya (Poznurr, 1,895 m). Dynodwyd Coedwigoedd Gwyryfol Komi yng ngogledd Mynyddoedd yr Wral yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

I'r dwyrain o'r Wral ceir gwastadedd eang Gwastadedd Gorllewin Siberia.

Enwyd y gadwyn ar ôl llwyth yr Wraliaid, llyth o helwyr-gasglwyr oedd yn arfer byw yng ngogledd Asia. Yn ddaearegol, maent ymhlith mynyddoedd hynaf y byd, 250 hyd 300 miliwn o flynyddoedd oed.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.