Gwastadedd Gorllewin Siberia
Gwastadedd mawr yn Rwsia yw Gwastadedd Gorllewin Siberia (Rwseg: За́падно-Сиби́рская равни́на, Zapadno-Sibirskaya ravnina), sy'n gorwedd yng ngorllewin Siberia rhwng Mynyddoedd yr Wral yn y gorllewin ac Afon Yenisei yn y dwyrain, a rhwng Mynyddoedd Altai yn y de-ddwyrain ac arfordir Cefnfor yr Arctig yn y gogledd. Mae'r gwastadedd yn cynnwys rhai o'r corsydd a gwastadeddau gorlifo mwyaf yn y byd a hynny am fod cymaint o ddŵr yn aros ar wyneb y tir ar ôl glaw. Mae dinasoedd mawr y gwastadedd yn cynnwys Omsk, Novosibirsk a Chelyabinsk.
Math | gwastatir, temperate coniferous forest, Russian Large Landscape |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 62°N 76°E, 60°N 75°E |
Daearyddiaeth
golyguMae'r gwastadedd yn cynnwys 975,000 milltir sgwar o dir. Mae llawer o'r tir yn y gogledd yn dir twndra, gyda choedwigoedd taiga a thir steppe agored yn y de. Isel yw'r tir hefyd ar y cyfan, gyda 50% yn gorwedd llai na 300 troedfedd uwch lefel y môr.[1] Mae'n ymestyn o'r gogledd i'r de am tua 1490 milltir (2,400 km) ac yn cynrychioli tua thraean o arwynebedd Siberia.
Y prif afonydd sy'n llifo dros Wastadedd Gorllewin Siberia yw Afon Ob, Afon Irtysh, ac Afon Yenisei. Ymhlith y corsydd niferus ceir Cors Vasyugan, a ystyrir y gors fwyaf yn hemisffer y Gogledd.
Yn weinyddol, mae Gwastadedd Gorllewin Siberia yn gorwedd yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Siberia, gan gynnwys rhanbarthau Oblast Chelyabinsk, Oblast Omsk ac Oblast Novosibirsk.
I'r dwyrain o'r gwastadedd, tu draw i Afon Angara, ceir Llwyfandir Canol Siberia.
Hinsawdd
golyguMae'r gaeaf yn oer iawn yno; nodweddir y gwastadedd gan hinsawdd cyfandirol yn y de ac Arctig yn y gogledd.
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- Lluniau o'r ardal o'r gofod Archifwyd 2006-10-11 yn y Peiriant Wayback ar wefan NASA.