NAACP
Mudiad hawliau sifil yw y National Association for the Advancement of Colored People (NAACP), a sefydlwyd i ddod ag arwahanu i ben yn yr Unol Daleithiau a dangos i'r bobl dduon eu bod yn cael eu trin yn anghyfiawn.
Roedd y NAACP yn defnyddio grym moesol sef drwy weithio yn gyfreithlon ag yn ddi-drais. Yn y flwyddyn 1919 cofnodwyd bod ganddynt dros 91,000 o aelodau ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynyddodd eu niferoedd i 450,000 o aelodau. Roeddent yn codi ymwybyddiaeth ymysg y pobl ddu bod angen gwelliannau yn eu statws a'u hawliau sifil.
Sefydlu
golyguSefydlwyd NAACP ar 12 Chwefror, 1909 gan grŵp o bobl gwahanol iawn gan gynnwys: Du Bois, Ida B. Wells, Archibald Grimké, Henry Moscowitz, Mary White Ovington, Oswald Garrison Villard, William English Walling (a oedd ei hun o deulu a fu'n cadw caethweision),[1] a Florence Kelley, cyfaill Du Bois.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [1] Archifwyd 2014-01-04 yn y Peiriant Wayback William English Walling
- ↑ Kathryn Kish Sklar, "Florence Kelley", Women Building Chicago, 1790-1990: A Biographical Dictionary, Rima Lunin Schultz and Adele Hast, eds., Gwasg Prifysgol Indiana, Bloomington, Indiana, 2001, tud. 463
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol NAACP Archifwyd 2009-06-22 yn y Peiriant Wayback (yn Saesneg)