Y Nafacho (enwau eraill: Navajo, Navaho) yw'r mwyaf o ran poblogaeth o holl bobloedd brodorol Gogledd America. Eu henw arnynt yn (sef y Nafacho yw'r Diné ("Y bobl").

Nafacho
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathBrodorion Gwreiddiol America yn UDA Edit this on Wikidata
MamiaithNafacho, saesneg edit this on wikidata
Poblogaeth311,000 Edit this on Wikidata
CrefyddEneidyddiaeth edit this on wikidata
Gwefanhttp://www.navajo-nsn.gov/index.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am bobl y Nafacho yw hon; ceir erthygl arall am y genedl-lwyth yma.
Aelod o lwyth y Nafacho

Mae tua 175,000 o Nafacho, yn byw yn bennaf yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, yn arbennig yn nhalaith Arizona ond gyda niferoedd sylweddol hefyd yn New Mexico, Utah a Colorado. Mae'r mwyafrif yn byw ar diroedd cadw (neu reservations) y Nafacho yn Arizona. Prifddinas y Nafacho yw Window Rock, Arizona.

Helwyr Nafacho yn 1887

Roedd y Nafacho, sy'n siarad iaith atabascaidd, yn wreiddiol o'r hyn sy'n awr yn Canada, ond symudodd y llwyth i'r de yn y cyfnod wedi'r 13g. Bu ymladd rhyngddynt a dynion gwynion a geisiodd ddwyn eu tiroedd, am rai blynyddoedd, cyn iddynt orfod ildio. Yn 1864 gorfodwyd y Nafacho i wneud Hirdaith y Nafacho i wersyll Bosque Redondo, a cheir cân am hyn gan Tecwyn Ifan.

Cyfeiriadau

golygu