Nakano Takeko
Roedd Nakano Takeko (中野 竹子,, 1847–1868) yn filwr benywaidd (Japaneg: onna-bugeisha) o ardal Aizu yn nhalaith Fukushima ar ochr ddwyreiniol Japan. Fe'i ganed yn Nakano, yn ferch i un o swyddogion cymuned Aizu. Wedi ymladd caled bu farw yn Rhyfel y Boshin (1868 - 1869).
Nakano Takeko | |
---|---|
Ganwyd | 1847 Edo |
Bu farw | 10 Hydref 1868 Aizu |
Dinasyddiaeth | Japan |
Galwedigaeth | onna-musha |
Cafodd ei hyfforddi mewn Crefft ymladd a chafodd ei mabwysiadu gan ei athro Akaoka Daisuke.[1] Gweithiodd gydag ef yn hyfforddi darpar filwyr eraill. Arbenigodd mewn ymladd gyda naginata (polyn hir gyda llafn metal siap lleuad) ac roedd yn gyfrifol am grwp ad hoc o ferched a oedd yn annibynnol o'r prif fyddin.[2] Yn ddiweddarach galwyd ei grwp hi o ymladdwyr yn 娘子隊 neu 'Jōshitai.
Pan oedd yn ymladd yn erbyn Byddin Ymerodrol Japan, neu'r Dai-Nippon Teikoku Rikugun saethwyd hi yn ei bron a thra roedd yn marw, trodd at ei chwaer Yūko a gofyn iddi dorri ei phen o'i chorff a'i gladdu. Gwnaeth hyn a chariwyd pen Onna-bugeisha i Deml Hōkai sydd heddiw'n cael ei alw yn Aizubange, Fukushima, lle claddwyd y pen dan goeden pinwydd. Gwnaeth hyn rhag ofn i'r gelyn dorri ei phen a'i arddangos ar bolyn.[3] Codwyd cerflun yn ddiweddar, yn y Deml, i'w chofio.[3]
Cyfeiriadau
golygu- Hoshi Ryōichi (2006). Onnatachi no Aizusensō. Tokyo: Heibonsha.
- Yamakawa Kenjirō; Munekawa Toraji (1926). Hoshū Aizu Byakkotai jūkyūshi-den. Wakamatsu: Aizu Chōrei Gikai.