Nant Gwernol
gorsaf reilffordd yng Nghymru
Gorsaf reilffordd yw Nant Gwernol, ger Abergynolwyn, sydd wedi bod yn ben taith Rheilffordd Talyllyn ers i'r linell gael ei ymestyn yn 1976. Does dim mynedfa yno heblaw am y rheilffordd gan lleolir hi mewn ceunant serth ond mae hefyd modd mynd am dro yng Nghoed Nant Gwernol, mae nifer o lwybrau pwrpasol wedi eu hadeiladu yno.[1]
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1976 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6419°N 3.9508°W |
Mae Nant Gwernol yn gartref i un o chwareli mwyaf adnabyddus Dyffryn Dyfi, sef Chwarel Bryn Eglwys. Yn 1877, cynhyrchwyd tua 8000 tunnell o lechi yno a cludwyd y llechi o'r chwarel ar system o dramffyrdd i orsaf Abergynolwyn lle ymunodd y dramffordd â Rheilffordd Talyllyn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "wt-woods.org.uk/coednantgwernol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-14. Cyrchwyd 2007-10-23.
- ↑ "Archaeoleg yn y Fforest: Mwyngloddiau a chwareli Gogledd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-02. Cyrchwyd 2007-10-23.