Afon Dyfi

afon yng nghanolbarth Cymru
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dyfi)

Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi. Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.

Afon Dyfi
DyfiValley.jpg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6004°N 3.8567°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Leri, Afon Llyfnant, Afon Einion Edit this on Wikidata
Hyd48 cilometr Edit this on Wikidata
Cwymp yr Afon Dyfi, 1815, gan John George Wood, 1768-1838
Cwymp yr Afon Dyfi (1815), gan John George Wood, 1768-1838

LlednentyddGolygu

Rhoddir isod pob un o lednentydd Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.

Chwith
Dde
  • Nant y Cafn
  • Afon Pumryd
  • Nant Esgyll
  • Afon Cywarch
  • Afon Cerist
  • Afon Angall
    • Afon Caws
    • Nant Maes y Gamfa
  • Nant Llwydo
  • Nant (neu Afon) Ceirig
  • Nant Ffrydlas
    • Nant Cwm yr Wden
  • Afon Dulas
    • Nant Ceiswyn
    • Nant Esgair-neirian
    • Nant Glegyrch
    • Nant y Goedwig
    • Nant y Darren
    • Nant Lliwdy
  • Afon Rhonwydd
    • Nant Cwm Breichiau
    • Afon Alys (Alice ar y map)
    • Nant Cwm Ffernol
  • Nant Cwm Sylwi

Hanes a thraddodiadauGolygu

Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.

Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.

Hen bennillGolygu

Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;
Lodes wen a'm hudodd innau
O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.[1]

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato