Rheilffordd Talyllyn

Mae Rheilffordd Talyllyn yn rheilffordd cledrau cul 2.3 troedfedd (686mm) sy'n rhedeg am 7.25 milltir neu 11.67 km rhwng Tywyn a Nant Gwernol, ym Meirionnydd, Gwynedd, ger pentre Abergynolwyn. Roedd gynt yn gwasanaethu chwareli llechi Bryn Eglwys, a hon oedd y rheilffordd ager gul, gyntaf a gafodd drwydded i gludo teithwyr, gan Ddeddf y Senedd yng Ngorffennaf 1865.

Rheilffordd Talyllyn
Edward Thomas, Trên Rhif 4 yn aros yng Ngorsaf Tywyn
Edward Thomas, Trên Rhif 4 yn aros yng Ngorsaf Tywyn
Trên Rhif 4 Edward Thomas yn aros yng Ngorsaf Tywyn, Ebrill 2005
Ardal leolCymru
TerminwsGorsaf reilffordd Tywyn (Harbwr)
Rheilffordd Talyllyn
Tywyn
Lleoliad Rheilffordd Talyllyn
Gweithgaredd masnachol
EnwRheilffordd Talyllyn
Maint gwreiddiol2 tr 3 modf (686 mm)
Yr hyn a gadwyd
Gweithredir ganCwmni Rheilffordd Talyllyn (Talyllyn Railway Company),
cefnogir gan Gymdeithas Gadwraeth Rheilffordd Talyllyn
Gorsafoedd7 a 5 arhosiad
Hyd7.25 mile (11.67 km)
Maint 'gauge'2 tr 3 modf (686 mm)
Hanes (diwydiannol)
1865Dyrchafiad brenhinol
1866Agorwyd
1911Gwerthwyd i Henry Haydn Jones
1946Y chwarel yn cau
Hanes (Cadwraeth)
1951Y Gymdeithas Gadwraeth yn cymryd drosodd
1976Agor Estyniad Nant Gwernol
2001Dathlu 50 mlynedd o Gadwraeth
2005Gorsaf ac amgueddfa newydd yn Nhywyn
2011Dathlu 60 mlynedd o Gadwraeth

Penodwyd James Swinton Spooner (mab James Spooner a brawd i Charles Easton Spooner, sy wedi gweithio ar Reilffordd Ffestiniog) yn beirianydd i'r rheilffordd, gan deulu McConnel, perchnogion chwareli Bryn Eglwys.[1]

Ar y dechrau doedd dim ond dwy orsaf: ym Mhendre ac Abergynolwyn. Yna adeiladwyd gorsafoedd Rhydyronen, Brynglas a Dolgoch. Mae amserlen 1867 yn cyfeirio at 'Orsaf King' yn Nhywyn, lle roedd llechi a theithwyr yn cael eu trosglwyddo i Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, a elwid yn ddiweddarach yn 'Rheilffordd y Cambrian'. Enwyd Gorsaf King ar ôl cynberchennog. Erbyn 1911, arddangoswyd yr orsaf yn Amserlen Bradshaw gydag enw Saesneg newydd, 'Towyn (Wharf)', a ddefnyddir hyd at heddiw.

Ar ddiwedd y 19g, dirywiad yn y farchnad llechi, defnyddiwyd y rheilfordd i gludo twristiaid. Gwerthwyd y chwareli a chyfran reolaethol yn y rheilffordd i Syr Henry Haydn Jones, Aelod Seneddol i Sir Feirionydd.[1] Daeth y chwarel i ben yn 1946, ac ni chafodd y rheilfordd ei gwladoli yn 1947. Ers 1951, mae cymdeithas frwdfrydig yn rheoli Rheilffordd Talyllyn.

Ailddechrau golygu

Bu farw Syr Haydn ym 1950. Cynhaliwyd cyfarfod ym Mirmingham a phenodwyd cyfarfodydd gydag ysgutorion Syr Haydn i drafod ailagor y rheilffordd. Prynwyd locomotifau rhif 3 a 4 o Reilffordd Great y Western, perchennog Rheilffordd Corris, sydd wedi cau erbyn hyn. Ailagorwyd y lein ym Mai 1951 o Dywyn i Rydyrhonen gan ddefnyddio locomotif 'Dolgoch'. Dechreuodd gwasanaeth llawn ar y 4ydd o Fehefin.[2]

Daeth y rheilffordd yn atyniad twristaidd mawr yn yr ardal ac yna cynlluniwyd ymestyn y cledrau o Abergynolwyn hyd at orsaf newydd Nant Gwernol ac o 1959 ymdrechwyd i ddarganfod perchnogion y tir, er mwyn ei brynu. Cwblhawyd y gwaith yno erbyn 1964, ac yna roedd angen Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn i adeiladu ac agor estyniad. Derbyniwyd y Gorchymyn ym 1972, ac agorwyd yr estyniad ar 22 Mai 1976.[3]

 
Injan Rhif 1 Talyllyn, yng ngorsaf Nant Gwernol

Locomotifau golygu

Rhif Enw Ffotograf Math Adeiladwr Blwyddyn
1 Talyllyn   0-4-2ST Fletcher, Jennings & Co., Whitehaven 1864
2 Dolgoch   0-4-0WT Fletcher, Jennings & Co., Whitehaven 1866
3 Sir Haydn   0-4-2ST Hughes, Falcon Works, Loughborough 1878
4 Edward Thomas   0-4-2ST Kerr Stuart,
Stoke on Trent
1921
5 Midlander   4w DM Ruston & Hornsby 1940
6 Douglas   0-4-0WT Andrew Barclay, Kilmarnock 1918
7 Tom Rolt   0-4-2T Rheilffordd Talyllyn 1991
8 Merseysider   4w DH? Ruston & Hornsby 1964
9 Alf   0-4-0 DM Hunslet Engine Co. 1950
10 Bryn Eglwys 4w DH Motor Rail 1985
 
Rheilffordd Talyllyn

Cerbydau pedair olwyn[4] golygu

Rhif Adeiladwr Math Seddi
1 Brown Marshall 3 adran 18
2 Brown Marshall 3 adran 18
3 Brown Marshall 3 adran 18
4 Cwmni Wagon Caerhirfryn 3 adran 18
5 Brown Marshall Gard 0
6 Gweithdy Falcon Gard 0
7 Rheilffordd Talyllyn Gard / Cadair olwyn 13
8 Rheilffordd Talyllyn 3 adran, ochrau agored 24
11 Rheilffordd Talyllyn 3 adran, ochrau agored 24
12 Rheilffordd Talyllyn 3 adran, ochrau agored 24
13 Rheilffordd Talyllyn 3 adran, ochrau agored 24
14 Midland R C a W 2 adran, dosbarth cyntaf 12
15 Midland R C a W 2 adran, dosbarth cyntaf 12

Cerbydau bogi golygu

Rhif Adeiladwr Math Seddi
9 W.G.Allen a Tisdales 5 adran 30/40
10 W.G.Allen a Tisdales 3 adran a Gard 18/24
16 Kerr Stuart a Rheilffordd Talyllyn 3 adran a Gard 18/24
17 Cwmni Cerbyd a Wagon Metropolitan 2 salŵn 22
18 Rheilffordd Talyllyn 6 adran 36/48
19 Rheilffordd Talyllyn a Tisdales 6 adran 12 cyntaf, 24/32 ail dosbarth
20 Rheilffordd Talyllyn a Tisdales 3 adran a salŵn cadair olwyn 32/41
21 Rheilffordd Talyllyn a Tisdales 3 adran a salŵn cadair olwyn 32/41
22 Rheilffordd Talyllyn a Tisdales 4 adran a Gard 24/32
23 Rheilffordd Talyllyn a Tisdales 6 adran 36/48

Lle bydd 2 rhif yn ymddangos, mae'r un is yn cyfeirio at nifer o seddi ar drenau cyffredin, ac yr un uwch at seddi ar drenau prysurach.

Llyfryddiaeth golygu

 
'Y Chwarelwr'
 
Trên yn ymyl Dolgoch
  • Adams, N. a Garvey, L. Sixty Years of Talyllyn Railway Volunteering
  • Bate, J.H.L The Chronicles of Pendre Sidings cyhoeddwyd gan Rail Romances, 2001. isbn 1-900622-05-X
  • Boyd, James I.C. Narrow Gauge Railways in Mid Wales cyhoeddwyd gan Oakwood, 1965 |isbn 0-85361-024-X
  • Boyd James I.C. The Tal-y-llyn Railway cyhoeddwyd gan Wild Swan 1988 isbn 0-906867-46-0
  • Castens, Simon On the Trail of The Titfield Thunderbolt cyhoeddwyd gan Lifrau Thunderbolt 2001 isbn=0-9538771-0-8
  • Cozens, Lewis The Tal-y-llyn Railway |argraffwyd yn bersonol, 1948
  • Goddin, Geoff Whose Heritage Railway is it? A Study of Volunteer Motivation Japan Railway & Transport Review, cyfrol 32, Medi 2002 tudalennau 46–49, PDF Archifwyd 2009-03-26 yn y Peiriant Wayback.
  • Holmes, Alan Talyllyn Revived cyhoeddwyd gan Reilffordd Talyllyn 2009 isbn 978-0-900317-07-1
  • Household, H.G.W. Ac Eldson, O. 1926 The Tal-y-llyn Railway journal, Railway Magazine cyfrol 58, Mehefin. Tudalennau 431–435[dolen marw]
  • Huntley, John Railways in the Cinema 1969 cyhoeddwyd gan Ian Allan
  • Johnson, Peter The Heyday of the Welsh Narrow Gauge 1997 cyhoeddwyd gan Ian Allan isbn=0-7110-2511-8
  • Johnson, Peter Welsh Narrow Gauge: a view from the past 1999 cyhoeddwyd gan Ian Allan isbn 0-7110-2654-8
  • Johnson, Peter ac Weaver, Rodney Great Preserved Locomotives: Talyllyn Railway No 1 Talyllyn & No 2 Dolgoch 1987 cyhoeddwyd gan Ian Allan isbn 0-7110-1711-5
  • Little, L. Carriages & Wagons of the Talyllyn Railway, cyhoeddwyd gan y Gymdeithas Rheilffyrdd Led Gul
  • Mitchell, David J. ac Eyres, Terry The Talyllyn Railway 2005 cyhoeddwyd gan Past and Present Publishing isbn 1-85895-125-9
  • Potter, D. The Talyllyn Railway 1990 cyhoeddwyd gan David St John Thomas isbn 0-946537-50-X
  • Ransom P.J.G Narrow Gauge Steam: Its origins and world-wide development 1996 cyhoeddwyd gan Oxford Publishing Co isbn 0-86093-533-7
  • Richards, Alun John The Slate Regions of North and Mid Wales, and their Railways 1999 cyhoeddwyd gan Carreg Gwalch isbn 0-86381-552-9
  • Rolt, L.T.C Railway Adventure 1998 cyhoeddwyd gan Sutton |isbn 0-330-02783-2
  • Rolt, L.T.C. (golygydd) Talyllyn Century 1965 cyhoeddwyd gan David & Charles
  • Rheilffordd Talyllyn a chyfranwyr, Sixty Years of the First Preserved Railway cyhoeddwyd gan Reilffordd Talyllyn
  • Thomas, Cliff The Narrow Gauge in Britain and Ireland 2002 cyhoeddwyd gan Atlantic Publishing isbn 1-902827-05-8
  • Woodcock, G. George1938 The Tal-y-llyn Railway |journal, Railway Magazine, cyfrol 83 Medi 1938, tudalennau 197–200[dolen marw]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 LTC Rolt, Railway Adventure
  2. [Railway Adventure]
  3. "Tudalen am Estyniad Nant Gwernol ar wefan y Rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-17. Cyrchwyd 2014-12-27.
  4. "Crynodeb o gerbydau, gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-12. Cyrchwyd 2012-12-05.

Dolen allanol golygu