William Nantlais Williams
Gweinidog, bardd, emynydd a golygydd o Gymru oedd William Nantlais Williams, a oedd yn ysgrifennu dan yr enw Nantlais (30 Rhagfyr 1874 – 18 Mehefin 1959). Roedd yn arweinydd blaenllaw yn Niwygiad 1904–1905.
William Nantlais Williams | |
---|---|
William Nantlais Williams; dim dyddiad; cyhoeddwyd yn Barddas; Haf 2004. | |
Ffugenw | Nantlais Williams |
Ganwyd | 30 Rhagfyr 1874 Gwyddgrug |
Bu farw | 18 Mehefin 1959 |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd |
Ganed ef yn Gwyddgrug, gerllaw Pencader, Sir Gaerfyrddin. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed i'w brentisio'n wehydd. Dechreuodd bregethu yn 1894, ac aeth i ysgol ramadeg Castell Newydd Emlyn ac yna i Goleg Trefeca i baratoi ar gyfer y weinidogaeth.
Ordeiniwyd ef yn 1901, a bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Rhydaman hyd ei ymddeoliad yn 1944. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Murmuron y nant yn 1898. Bu'n olygydd Yr Efengylydd o 1916 hyd 1933, ac yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1934 hyd 1947.
Ymhlith ei emynau y mae: 'Iesu cofia'r plant' ac ef yw awdur y gerdd:
- Tu ôl i'r dorth mae'r blawd
- Tu ôl i'r blawd mae'r felin,
- Tu ôl i'r felin draw ar y bryn
- Mae cae o wenith melyn.
Cyhoeddiadau
golygu- Murmuron y nant (1898)
- Moliant plentyn, rhan I (1920)
- Murmuron newydd (1926)
- Moliant plentyn, rhan II (1927)
- Darlun a chân (1941)
- Clychau'r Gorlan (1942)
- O gopa bryn Nebo (1967)