Pencader

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan gwledig yng nghymuned Llanfihangel-ar-Arth, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pencader. Gorwedd ar groesffordd ar lôn y B4459, tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o Landysul ar lan un o ledneintiau llai Afon Teifi.

Pencader
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaLlanfihangel-ar-Arth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.001741°N 4.265578°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Roedd Pencader yn ganolfan cwmwd Mabudrud yn yr Oesoedd Canol. Mae'n enwog fel cartref yr "hen ŵr o Bencader" y dyfynnir ei ateb herfeiddiol i'r brenin Harri II o Loegr, pan ofynnodd y brenin a allai oresgyn cenedl y Cymry, gan Gerallt Gymro ar ddiwedd ei lyfr Disgrifiad o Gymru:

Ei gorthrymu, yn wir, ac i raddau helaeth iawn ei distrywio a'i llesgáu trwy dy nerthoedd di, O frenin, ac eiddo eraill, yn awr megis gynt a llawer gwaith eto tan orfodaeth ei haeddiannau, a ellir i'r genedl hon. Yn llwyr, fodd bynnag, trwy ddogofaint dyn, oni bo hefyd ddigofaint Duw yn cydredeg ag ef, ni wneir ei dileu. Ac nid unrhyw genedl arall, fel y barnaf fi, amgen na hon o'r Cymry, nac unrhyw iaith arall, ar Ddydd y Farn dostlem gerbron y Barnwr Goruchaf, pa beth bynnag a ddigwyddo i'r gweddill mwyaf ohoni, a fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o'r ddaear.[1]

Ceir Castell Pencader, a godwyd gan y Normaniaid, ger y pentref. Ar fferm ger Pencader treuliodd Sarah Jacob (1857-1869), y Welsh Fasting Girl enwog, ei hoes fer.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), tt. 231-32.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato