Cylchgrawn gwyddonol chwarterol yw Nature in Wales, yn Saesneg yn bennaf ond gyda rhywfaint o’r cynnwys yn yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys erthyglau academaidd a chyffredinol, ac adolygiadau ar lyfrau. O 1955 hyd at 1981 fe’i cyhoeddwyd gan y West Wales Field Society; cychwynnwyd ar gyfres newydd pan gymerodd Amgueddfa Cymru drosodd yn 1982.

Nature in Wales
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
CyhoeddwrYmddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiEbrill 1955 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1955 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiHundleton Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd Pembrokeshire Bird Protection Society (Cymdeithas Gwarchod Adar Sir Benfro) yn 1938; yn 1946 newidiwyd ei enw i West Wales Field Society, ac yna yn 1962 i Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru / West Wales Naturalists' Trust. Yn 1981 esblygodd yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfed, ac ymgymerodd Amgueddfa Cymru â’r dasg o gyhoeddi Nature in Wales.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.