Cyfnodolyn
Cyhoeddiad sy'n ymddangos ar ffurf argraffiad newydd yn gyson ar ben rhyw amser penodol yw cyfnodolyn,[1] cylchgyhoeddiad,[2] cyhoeddiad cyfnodol,[3] cyhoeddiad cylch[yn]ol,[3] llenyddiaeth gyfnodol[4] neu lenoriaeth gyfnodol.[5] Mae papurau newydd, cylchgronau, cyfnodolion academaidd, cyfnodolion llenyddol, a blwyddlyfrau i gyd yn enghreifftiau o gyfnodolion.
Yn ôl y diffiniad modern gan UNESCO: "Ystyrir cyhoeddiad yn gyfnodolyn os yw'n cynnwys un rhifyn mewn cyfres barhaol o dan yr un teitl, a gyhoeddir o dro i dro yn gyson neu'n anghyson, dros gyfnod amhendant, a rhifir rhifynnau unigol y gyfres yn olynol neu'n dwyn dyddiad."[6]
Mae nifer o gyfnodolion a gyhoeddir mwy nag unwaith y flwyddyn yn defnyddio'r system "Cyfrol, Rhifyn" o rifo'r argraffiadau: mae cyfrol yn cyfeirio at y nifer o flynyddoedd a gyhoeddir y cyfnodolyn, a'r rhifyn yn cyfeirio at faint o weithiau fe'i gyhoeddir yn ystod y flwyddyn honno.
Hanes
golyguY Tatler (1709–11) a'r Spectator (1711–14) oedd y cyfnodolion cyntaf yng Ngwledydd Prydain. Erbyn yr 20g cyhoeddwyd nifer fawr o gyfnodolion wythnosol a misol, a gellir eu rhannu yn gyffredinol yn ddau prif fath: cylchgronau ar bynciau o ddiddordeb i'r cyhoedd a werthir mewn siopau papurau newydd, archfarchnadoedd, siopau llyfrau a stondinau llyfrau; a chyfnodolion a gyhoeddir gan gymdeithasau, clybiau, prifysgolion, a sefydliadau llywodraethol i danysgrifwyr.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [periodical].
- ↑ cylchgyhoeddiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Hydref 2014.
- ↑ 3.0 3.1 cyhoeddiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Hydref 2014.
- ↑ llenyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Hydref 2014.
- ↑ llenoriaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Hydref 2014.
- ↑ (Saesneg) Recommendation concerning the International Standardization of Statistics Relating to Book Production and Periodicals. UNESCO (19 Tachwedd 1964). Adalwyd ar 23 Hydref 2014. "A publication is considered to be a periodical if it constitutes one issue in a continuous series under the same title, published at regular or irregular intervals, over an indefinite period, individual issues in the series being numbered consecutively or each issue being dated"
- ↑ Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 1180.