Naturiolaeth (llenyddiaeth)
Mudiad llenyddol a fu ar ei anterth ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g, yn Ffrainc yn enwedig, yw naturiolaeth sydd yn arddel penderfyniaeth, gwrthrychedd foesol, sylwebaeth gymdeithasol, a golygwedd wyddonol ar ffuglen. Datblygodd dan ddylanwad Émile Zola yn bennaf, fel estyniad i realaeth lenyddol yn ei nod o gynrychioli'r byd mewn rhyddiaith ffyddlon ac annethol, ac i gyflwyno talp o fywyd go iawn i'r darllenydd heb farn yr awdur. Ceisiai'r naturiolwyr addasu egwyddorion a methodoleg y gwyddorau naturiol, yn enwedig Darwiniaeth, at lenyddiaeth, a chelfyddydau eraill hefyd. O ganlyniad i'r benderfyniaeth wyddonol sydd yn nodweddu naturiolaeth, byddent yn pwysleisio natur ffisiolegol dyn, a'i amgylchiadau damweiniol, yn hytrach na'i arweddau moesol a rhesymegol.
Thérèse Raquin, nofel naturiolaethol gan Émile Zola | |
Enghraifft o'r canlynol | mudiad llenyddol |
---|---|
Math | Naturiolaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sail ddamcaniaethol y mudiad oedd dull y beirniad Hippolyte Taine o drin llenyddiaeth yn ôl cyflwr y byd naturiol. Yr esiampl gyntaf o nofel "wyddonol", mae'n debyg, oedd Germinie Lacerteux (1865) gan y brodyr Edmond a Jules de Goncourt, stori ddidrugaredd am ferch sydd yn dioddef nymffomania. Fel rheol, ystyrir yr ysgrif "Le Roman expérimental" (1880) gan Émile Zola yn ddogfen sefydlu'r mudiad.[1] Ymhlith y llenorion a ysgrifennai yn unol â'r egwyddorion a luniwyd gan Zola bu'r Ffrancwr Joris-Karl Huysmans, yr Almaenwr Gerhart Hauptmann, y Swediad August Strindberg, a'r Portiwgaliad José Maria Eça de Queirós.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Naturalism (art). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2021.