Hippolyte Taine
Beirniad llenyddol ac hanesydd o Ffrainc oedd Hippolyte-Adolphe Taine (21 Ebrill 1828 – 5 Mawrth 1893).
Hippolyte Taine | |
---|---|
Portread o Hippolyte Taine gan Léon Bonnat | |
Ffugenw | Frédéric-Thomas Graindorge |
Ganwyd | Hippolyte Adolphe Taine 21 Ebrill 1828 Vouziers |
Bu farw | 5 Mawrth 1893 rue Cassette |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, hanesydd, llenor, hanesydd celf, beirniad llenyddol |
Swydd | Q65498963, Q65498963, seat 25 of the Académie française |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Q1820606, Philosophie de l'art, Essai sur Tite-Live, History of English Literature, Q19197655, Notes and Opinions of Mr. Frederick-Graindorge |
Mudiad | Positifiaeth |
Priod | Thérèse Taine |
Gwobr/au | Cystadleuthau Cyffredinol, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Hippolyte-Adolphe Taine ar 21 Ebrill 1828 yn Vouziers yn yr Ardennes, Teyrnas Ffrainc, i deulu dosbarth canol. Bu nifer o'i berthnasau yn gweithio i'r gwasanaeth sifil, a chyfreithiwr oedd ei dad. Cafodd ei fagu mewn awyrgylch gwaraidd a'i gyflwyno i'r celfyddydau a byd natur ers ei flynyddoedd cynnar, a derbyniodd ei wersi gan athrawon preifat yn y tŷ. Yn sgil marwolaeth ei dad, pan oedd Hippolyte yn 13 oed, aeth i fyw gyda'i fam ym Mharis a bu'n ddisgybl rhagorol yn y Collège Bourbon. Darllenodd weithiau'r rhesymolwyr ac athronwyr y mudiad Idéologie, a throdd ei gefn ar y ffydd Gristnogol erbyn 15 oed. Yn gynnar felly, datblygodd ei feddylfryd epistemolegol o seilio gwybodaeth ar brofiad y synhwyrau, arsylwad, ac arbrofion rheoledig.[1]
Aeth i'r École Normale Supérieure ym 1848 wedi iddo dderbyn ei licenceès-lettres (rhag-radd), ac yno astudiodd am ei agrégation (uwch-radd) mewn athroniaeth. Tynnwyd ei sylw yn arbennig gan faes metaffiseg, a dan ddylanwad syniadau Hegel a Spinoza ei nod oedd i esbonio'r grymoedd achosol sydd yn gyrru bywyd a'r bydysawd. Byddai ei athrawon, ar y llaw arall, yn cofleidio eclectigiaeth, athrawiaeth ffasiynol yr oes, ac o'r herwydd taliadau Hippolyte Taine, a ystyriwyd yn anuniongred ganddynt, cafodd ei fethu gan banel yr agrégation ym 1851.[1]
Addysgodd Taine am gyfnodau byrion yn Nevers a Poitiers cyn iddo ddychwelyd i Baris ym 1852. Cyflwynodd ddau draethawd estynedig ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth, un ar bwnc cymeriadau mewn ymgomion Platon a'r llall yn astudiaeth o ffablau Jean de La Fontaine, ac enillodd y radd honno ym Mai 1853.[1]
Ei feirniadaeth ac athroniaeth
golyguBu cyfnod mwyaf cynhyrchiol Taine yn cyd-daro â theyrnasiad yr Ymerawdwr Napoléon o 1852 i 1870. O ganlyniad i'r ormes wleidyddol yn Ail Ymerodraeth Ffrainc, yn enwedig yn erbyn deallusion rhyddfrydol, fe roddai'r gorau i geisio am yrfa academaidd, ac enciliodd o fywyd cyhoeddus i ganolbwyntio ar ei amryw astudiaethau. Gweithiodd yn diwtor preifat er mwyn ennill ei damaid, a chyhoeddai ei erthyglau a llyfrau yn rheolaidd.. Parhaodd i fynychu darlithoedd, yn enwedig ar bynciau gwyddonol, a chafodd grap ar ffisioleg a fyddai'n bwysig wrth siapio'i syniadau am seicoleg.
Aeth ar wyliau i fynyddoedd y Pyreneau ym 1854 i wella'i iechyd, ac ysgrifennodd deithlyfr llenyddol o'i daith dan y teitl Voyage aux eaux des Pyrénées (1855). Enillodd Taine wobr o'r Académie française am ei draethawd ar Lifi, Essai sur Tite-Live (1856). Yn ei gyfrol Les Philosophes français du XIX siècle (1857) ceir asesiad beirniadol o syniadau athronwyr Ffrengig y 19g. Cyhoeddodd sawl cyfrol o ysgrifau beirniadol, gan gynnwys Essais de critique et d'histoire (1858), Nouveaux essais (1865), a Derniers essais (1894). Cyhoeddodd adolygiad o'i draethawd doethurol, La Fontaine et ses fables, ym 1861, ac yn yr hwnnw ceir cyflwyniad i gysyniad Taine o estheteg sydd yn nodweddiadol o'i olygwedd wyddonol ar lenyddiaeth.
Gosodir cyfundrefn feirniadol Taine yn gliriaf yn ei gyflwyniad i Histoire de la littérature anglaise (1863). Ei gampwaith arall yw De l'intelligence (1870) sydd yn cydlynu ei syniadau seicolegol ac athronyddol â'i ddulliau beirniadol.
Celf
golyguYm 1864 penodwyd Taine i olynu'r pensaer Viollet-le-Duc yn swydd athro estheteg ac hanes celf yn yr École des Beaux-Arts ym Mharis, a byddai'n darlithio yno am ugain mlynedd.[1] Cyhoeddwyd ei ddarlithoedd mewn dwy gyfrol, Philosophie de l'art (1865–69), gan gynnwys dadansoddiadau o ddatblygiad y celfyddydau yng Ngwlad Groeg, yr Eidal, a'r Iseldiroedd.
Ei hanesyddiaeth
golyguYsgytwyd Taine gan Ryfel Ffrainc a Phrwsia ym 1870. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei oes yn ymchwilio i hanes Ffrainc mewn ymgais i egluro trechiad Ffrainc ac helynt Comiwn Paris ym 1871, a chyhoeddwyd ei ddadansoddiadau ar ffurf Les Origines de la France contemporaine (1875–93).[2]
Diwedd ei oes
golyguBu farw Hippolyte Taine ar 5 Mawrth 1893 ym Mharis yn 64 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Hippolyte Taine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Hydref 2021.
- ↑ (Saesneg) "Hippolyte Adolphe Taine", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 14 Hydref 2021.
Darllen pellach
golygu- Sholom J. Kahn, Science and Aesthetic Judgement: A Study in Taine's Critical Method (1953)