Nebo, Queensland
Tref fechain yn Queensland, Awstralia yw Nebo. Fe'i lleolir 100 km i'r de-orllewin o ddinas Mackay ar y Peak Downs Highway. Yn ôl cyfrifiad 2006, roedd gan Nebo boblogaeth o 282.[1]
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Nabu ![]() |
Poblogaeth | 753, 857, 618 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Queensland, Isaac Region ![]() |
Gwlad | Awstralia ![]() |
Cyfesurynnau | 21.6833°S 148.683°E ![]() |
Cod post | 4742 ![]() |
![]() | |
Fort Cooper oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal ond fe'i newidiwyd i Nebo gan Lywodraethwr y Cyngor ar 2 Tachwedd 1923, ond mae'n debyg y defnyddir yr enw Nebo arno ers yr 1880au wedi iddo gael ei ailenwi gan y fforiwr a'r bugeiliwr William Landsborough. Daw'r enw Nebo o enw'r duw Babylonaidd Nabu (Hebraeg: Nebo).[2]
Yn draddodiadol, mae'r economi leol wedi dibynnu ar amaethyddiaeth, ond mae glo yn chwarae rhan bwysig hefyd, gan fod 11 pwll glo wedi eu lleoli yn yr ardal.
Gweler hefyd golygu
- Swydd Nebo - hen ardal gweinyddol Nebo
- Nebo (Gwahaniaethu)
Ffynonellau golygu
- ↑ Cyfrifiad Awstralia 2006, UCL343550, Nebo (L) (Urban Centre/Locality)
- ↑ Place name details, Nebo. Llywodraeth Queensland.