Roedd Nefertiti (Ystyr: "y prydferthwch sydd wedi dod") yn brif wraig i frenin yn Hen Aifft Amenhotep IV (yn ddiweddarach Akhenaten). Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu ei bod wedi rheoli'r Aifft ar ei phen ei hun am gyfnod byr ar ôl marwolaeth Akhenaten.

Nefertiti
Ganwydc. 1370 CC Edit this on Wikidata
Thebes Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1330 CC Edit this on Wikidata
Amarna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenhines cyflawn Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g CC Edit this on Wikidata
Swyddbrenhines, Pharo Edit this on Wikidata
TadAy Edit this on Wikidata
PriodAkhenaten Edit this on Wikidata
PlantNeferneferuaten Tasherit, Neferneferure, Setepenre, Meritaten, Meketaten, Ankhesenamun Edit this on Wikidata
LlinachEighteenth Dynasty of Egypt Edit this on Wikidata
<
X1
N35
N5
M17F35F35F35F35M18X1
Z4
B1
>
Nefertiti
yn hieroglyffau

Daeth Nefertiti yn enwog oherwydd y cerflun ohoni sy'n awr yn yr Altes Museum, Berlin. Mae'r cerflun yma, a gludwyd i Berlin wedi ei ddarganfod yn ystod ymchwil archaeolegol yng ngweddillion gweithdy'r cerflunydd Thutmose, ymhlith y mwyaf adnabyddus o holl weithiau celf yr Hen Aifft.

Nid oes sicrwydd pwy oedd rhieni Nefertiti, ond y farn gyffredinol ar hyn o bryd yw ei bod yn ferch i Ay, a ddaeth yn frenin ei hun yn ddiweddarach. Cafodd chwe merch gydag Akhenaten:

Rhoddir amlygrwydd mawr i Nefertiti yn arlunwaith y cyfnod, gyda'r brenin yn cael ei ddangos yn rheolaidd yn ei chwmni ac yn aml gyda'u merched. Mae'n diflannu o'r cofnodion tua 1336 CC.